Protocolau a Gweithdrefnau
Rhan o waith y Byrddau Diogelu yng Ngwent yw sicrhau bod gennym brotocolau a chanllawiau perthnasol, cyfredol i helpu ymarferwyr sydd wrthi’n ymarfer. Rydym yn gweithio'n agos gyda staff o amrywiaeth o asiantaethau i ddatblygu dogfennau sydd wedi'u cynllunio mewn ffordd hawdd eu deall.
Pan ddatblygir protocolau rhanbarthol gofynnwn i ymarferwyr ein helpu i gadw'r dogfennau'n rhai sy'n hawdd eu dilyn ac sydd mor berthnasol â phosibl. Mae'r dudalen i roi sylwadau ar yr ymgynghoriadau presennol isod.