Hyfforddiant
Mae'r Byrddau Diogelu yn darparu cyrsiau hyfforddi i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl ar draws y rhanbarth.
Mae ein Hyfforddiant yn agored i holl Awdurdodau Lleol De Ddwyrain Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf ac unrhyw sefydliad gofal cymdeithasol priodol arall o'r sectorau statudol neu wirfoddol sy'n gweithio yn ardal De Ddwyrain Cymru sy'n darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd.
Mae holl hyfforddiant y Bwrdd yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa aml-asiantaeth o weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr.