Ym mis Mehefin, mae Diogelu Gwent yn lansio Cwrs Diogelu Oedolion Grŵp C newydd sy'n cyd-fynd â Safonau a Fframwaith Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol Cymru. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu’n fewnol gan Diogelu Gwent dan nawdd yr Is-grŵp Dysgu a Datblygu.
Dyma’r pecyn hyfforddi Grŵp C cyntaf yng Nghymru, yn sicr ymhlith y 6 partneriaeth diogelu rhanbarthol ac mae Is-grŵp Dysgu a Datblygu Diogelu Gwent wrthi’n trafod â Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch y posibilrwydd o rannu’r pecyn â rhanbarthau eraill.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys yr 8 awr o ddysgu cyffredinol cychwynnol sydd eu hangen ar ymarferwyr Grŵp C o dan y fframwaith cenedlaethol newydd. Wedyn, bydd disgwyl i ymarferwyr Grŵp C gwblhau dysgu ychwanegol sy'n ymwneud â diogelu (18 awr dros 3 blynedd) sy’n berthnasol i’w rolau penodol fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae pecyn Plant Grŵp C ar wahân yn cael ei ddatblygu a bydd ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.