Nid yw magu plant yn rhwydd bob amser; mae ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo Llywodraeth Cymru, eisiau helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor a chymorth ynglŷn â magu plant mewn modd cadarnhaol i rieni sydd â phlant hyd at 18 oed.
Tri mis yn unig ers i gosbi plant yn gorfforol ddod yn anghyfreithlon, bydd cyfres o sioeau teithiol sy’n rhoi gwybodaeth am fagu plant yn ymweld â lleoliadau ledled Cymru rhwng mis Mehefin a mis Medi 2022.
Bydd y sioeau teithiol yn cynnig sesiynau galw heibio anffurfiol i’r cyhoedd mewn archfarchnadoedd a digwyddiadau cyhoeddus, gan roi cyngor ymarferol ar dechnegau magu plant yn gadarnhaol a chyfle i gael gwybod mwy am y gyfraith newydd ar gosbi corfforol.
Bydd cynrychiolwyr o wasanaethau cymorth i deuluoedd / magu plant llywodraeth leol a Magu Plant. Rhowch amser iddo wrth law i siarad am bopeth sy’n ymwneud â magu plant.
Mae’r sioeau teithiol yn cyd-fynd ag ymgyrch hysbysebu genedlaethol newydd, ‘Ddim fan hyn’, sy’n codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod cosbi corfforol, fel smacio, bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Mae’r rhestr lawn o ddyddiadau a lleoliadau fel a ganlyn:
- Dydd Iau 30 Mehefin, 9.30-12.30: ASDA Bae Caerdydd, Parc Manwerthu Ferry Road, Caerdydd, CF11 OJR
- Dydd Iau 7 Gorffennaf, 9.30-12.30: ASDA Llansamlet, Upper Forest Way, Abertawe, SA6 8PS
- Dydd Iau 14 Gorffennaf: 9.30-12.30: ASDA Pen-y-bont ar Ogwr, Coychurch Road, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3AG
- Dydd Iau 18 Awst, 9.30-12.30: Ffair Dinbych a’r Fflint, The Green, Dinbych, LL16 3NU
- Dydd Iau 1 Medi, 9.30-12.30: Tesco Extra Casnewydd, Uned 3, Harlech Retail Park, Cardiff Road, Casnewydd NP20 3BA
- Dydd Iau 15 Medi, 9.30-12.30: Tesco Aberystwyth, Park Avenue, Aberystwyth, SY23 1PB
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, “Pan gyflwynom y gyfraith i roi terfyn ar gosbi corfforol, roeddem yn gwbl ymwybodol bod angen i’r wybodaeth, cyngor a chymorth angenrheidiol fod ar gael i rieni. Dyna pam rydym yn buddsoddi hyd at £2.8m ychwanegol, dros bedair blynedd, i gynyddu gallu awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu cymorth ar fagu plant mewn modd cadarnhaol.
“Bydd y sioeau teithiol ledled Cymru yn gyfle gwych i deuluoedd gael gwybod mwy am yr ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo a chael awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant yn gadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant.
“Mae llawer o gymorth magu plant ar gael i deuluoedd, gan gynnwys cymorth wedi’i dargedu trwy raglenni fel Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf ochr yn ochr â gwasanaethau cyffredinol a ddarperir gan, er enghraifft, fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu ac awdurdodau lleol.”
Nodyn i’r golygydd
Magu plant yn gadarnhaol: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i hyrwyddo egwyddorion magu plant yn gadarnhaol, sy'n gyson ag egwyddorion sylfaenol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). I gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru am i rieni gael mynediad at wybodaeth, cymorth ac anogaeth i'w galluogi i ddewis y dull mwyaf cadarnhaol o fagu eu plant. Rydym am i blant a rhieni sicrhau bondio ac ymlyniad da o'r cychwyn cyntaf, ac annog rhieni i gael perthynas gadarnhaol a chefnogol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i ffynnu ac i fyw plentyndod hapus ac iach.
Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnig tips ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant mewn modd cadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant a dewisiadau eraill yn lle cosb gorfforol. Mae rhagor o wybodaeth am rianta cadarnhaol, gan gynnwys adnoddau i helpu rhieni, ar gael yn: llyw.cymru/rhowchamseriddo
Stopio Cosbi Corfforol yng Nghymru: Ar 21 Mawrth 2022 daeth cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Ymunodd Cymru â thros 60 o wledydd ledled y byd sydd eisoes wedi gwahardd cosb gorfforol tuag at blentyn. Mae plant yng Nghymru bellach yn cael yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion. Mae hyn yn golygu bod y gyfraith yn glir - yn hawdd i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd ei deall.
Cosb gorfforol yw pan fo grym corfforol yn cael ei ddefnyddio i gosbi plentyn. Er mai smacio sy’n dod i’r meddwl gan amlaf, gall fod sawl ffurf ar gosb gorfforol, gan gynnwys taro, slapio ac ysgwyd.
Nod Llywodraeth Cymru wrth wneud cosbi corfforol yn anghyfreithlon yw helpu i amddiffyn plant a'u hawliau. Ond mae’n cydnabod, drwy ddileu’r amddiffyniad, y gellir cyhuddo neu erlyn nifer bach o rieni am drosedd mewn amgylchiadau lle na fyddai hynny wedi digwydd o’r blaen.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni, trwy ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor, chanllawiau a bydd yn parhau i godi ymwybyddiaeth am y newid yn y gyfraith; y bwriad yw peidio â dod â phobl gerbron y system cyfawnder troseddol ond annog mwy a mwy o bobl i roi’r gorau i ddefnyddio cosb gorfforol.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol (£400,000 o gyllid paratoadol a dderbyniwyd eisoes, ynghyd â £2.4 miliwn, rhwng 2022-23 a 2024-25) i ddarparu cymorth rhianta o dan y cynllun newyddcymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i'r llys. Bydd yn golygu, mewn achosion pan fo’r heddlu yn penderfynu ei bod yn briodol cynnig datrysiad y tu allan i’r llys, y bydd opsiwn o gynnig cymorth rhianta i helpu i osgoi aildroseddu. Bydd hyn, fodd bynnag, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Er y bydd awdurdodau lleol yn blaenoriaethu atgyfeiriadau gan yr heddlu, bydd y gweithwyr rhianta a gyflogir drwy'r cyllid hwn hefyd yn gallu cefnogi cymorth rhianta cyffredinol ehangach a gynigir gan yr awdurdod lleol (er enghraifft, os yw nifer yr atgyfeiriadau gan yr heddlu yn isel).
Mae rhagor o wybodaeth am stopio cosbi corfforol ar gael yma: llyw.cymru/stopiocosbicorfforol