Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu Canllaw Diogelu Corfforaethol newydd sydd â'r nod o ddiweddaru a chryfhau arferion diogelu corfforaethol a galluogi cynghorau i bennu safonau cyffredin lle maent yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny.
Mae'r canllaw yn canolbwyntio ar egwyddorion, nodweddion a chryfderau allweddol sy'n gysylltiedig â diogelu corfforaethol da, ond hefyd yn cyfeirio at ac yn dyfynnu enghreifftiau penodol, dulliau a thempledi o bob cwr o Gymru gan gynnwys Gwent.