Mai 2025 Digwyddiadau i Ymarferwyr y Rhwydwaith Diogelu Lleol

Wedi ei bostio ar:04/04/2025

Thema: Pynciau llosg mewn Diogelu

Mae Bwrdd Diogelu Gwent wedi trefnu dau ddigwyddiad ar-lein ar gyfer ein digwyddiadau Fforwm Ymarferwyr y Rhwydwaith Diogelu Lleol ym mis Mai 2025.

Mae'r rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein yn agored i aelodau, ymarferwyr a gwirfoddolwyr y Rhwydwaith Diogelu Lleol sy'n gweithio yng Ngwent.

Digwyddiad 1

Dydd Llun 19 Mai 2025

1pm–4pm  

Bydd cyflwyniadau ar y pynciau canlynol:

  • Anghenion lluosog ac anghenion sy'n cyd-ddigwydd ymhlith y rhai sy'n profi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  • Byw Heb Ofn
  • Safbwyntiau beirniadol ac ymatebion i droseddau â chyllyll

I gadw lle, cliciwch yma: Ffurflen Cadw Lle Digwyddiad Ymarferwyr y Rhwydwaith Diogelu Lleol ar 19 Mai

Digwyddiad 2

Dydd Mercher 21 Mai 2025

9.30am–12.30pm

Bydd cyflwyniadau ar y pynciau canlynol:

  • Panel Channel – Deall hyn a'r broses Prevent
  • Salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill
  • Fy Nhîm Cymorth (MyST)

I gadw lle, cliciwch yma: Ffurflen Cadw Lle Digwyddiad Ymarferwyr y Rhwydwaith Diogelu Lleol ar 21 Mai