Diogelu

Cafodd y Safonau a Fframwaith Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol eu cyflwyno yn 2022. Mae pecyn E-ddysgu Ymwybyddiaeth Sylfaenol sy'n addas ar gyfer staff Grŵp A, hynny yw staff sy'n gweithio neu’n gwirfoddoli i sefydliad y sector cyhoeddus neu wirfoddol yng Nghymru, ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r cwrs hwn ar gael am ddim.

Cliciwch yma I gail mynediad 'Gofal Cymdeithasol Cymru'

Mae Bwrdd Diogelu Gwent yn darparu cyrsiau hyfforddiant sy'n addas ar gyfer staff grŵp B a C, hynny yw'r rhai sy'n gweithio yn uniongyrchol gyda neu dros blant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl ledled y rhanbarth. Mae'r sesiynau sydd ar gael wedi'u rhestru isod.

Gwelwch Hysbysiad Preifatrwydd Hyfforddiant Bwrdd Diogelu Gwent yma.

Service User
Grŵp C ar Ddiogelu Plant (06/10/2026)

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer Person neu Bersonau Diogelu Dynodedig a'r rhai sy'n cymryd rhan mwy blaenllaw wrth wneud penderfyniadau o ran diogelu yn eu lleoliadau nhw, gan gynnwys pobl sy'n chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau cynllunio diogelwch.

Date(s):06/10/2026 ( 09:15 – 16:45 )

Service User: Plant

Deall Ymddigiad Rhywiol Niweidiol - (06/10/2026)

Sesiwn ar ddeall datblygiadol disgwyliedig ymddygiad iach ac ymddygiad amhriodol, sut y gallant achosi niwed rhywiol neu gynyddu niwed rhywiol plentyn bregus a ffyrdd effeithiol o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i siarad am gamdriniaeth bosibl neu ymddygiad rhywiol niweidiol.

Date(s):06/10/2026 ( 10:00 – 12:30 )

Service User: Plant

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (08/10/2026)

Codi ymwybyddiaeth o'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (MAC) a sut y gall plant a phobl ifanc fod yn agored i gam-fanteisio, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl.

Date(s):08/10/2026 ( 10:00 – 12:00 )

Service User: Plant

Diogelu Plant ac Oedolion: Ymarferwyr Grŵp B (15/10/2026)

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr Grŵp B sydd â chyfrifoldeb penodol am y bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw ac felly sydd angen lefel uwch o wybodaeth na'r rhai yng Ngrŵp A. Mae ymarferwyr Grŵp B yn gweithio gyda phobl a allai fod â phryderon diogelu, neu beidio, ond nid ydyn nhw'n cymryd rhan mewn cynllunio amddiffyn nac yn eistedd ar grwpiau craidd ac nid oes disgwyl iddyn nhw roi cyngor diogelu i eraill. Bydd ymarferwyr Grŵp B yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon a bydd llinell glir o ran rhoi gwybod y mae disgwyl iddyn nhw ei dilyn.

Date(s):15/10/2026 ( 09:30 – 16:30 )

Service User: Plant Oedolion

Ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau mewn diogelu (15/10/2026)

Yn rhy aml, mae systemau'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n mynd o'i le. Mae'r cwrs hwn yn ail-fframio cymorth o amgylch gwytnwch, perthnasoedd, a galluoedd pobl ifanc dros newid. Dewch i ddysgu sut i weithio'n berthynol wrth barhau i reoli risg yn effeithiol.

Date(s):15/10/2026 ( 14:00 – 16:30 )

Service User: Plant

Complex Neglect - Plant a Theuluoedd (21/10/2026)

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu dealltwriaeth ymarferwyr o esgeulustod cymhleth (lle mae plant a phobl ifanc yn agored i nifer o deipolegau esgeulustod). Bydd dysgwyr yn datblygu gwell dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n sail i esgeulustod a sgiliau i'w atal.

Date(s):21/10/2026 ( 10:00 – 16:30 )

Service User: Plant

Cwblhau Ffurflen DTR Oedolion: Arfer Da a Disgwyliadau (28/10/2026)

Mae'r Dosbarthiadau Meistr Dyle tswydd i Roi Gwybod (Ffurflen) wedi'u cynllunio i uwchsgilio ymarferwyr Grwpiau B ac C nad ydyn nhw erioed wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol ar sut i lenwi ffurflen Dyletswydd i Roi Gwybod (Ffurflen Atgyfeirio Aml-Asiantaeth ar gyfer plant gynt) ar gyfer oedolyn sydd o bosibl mewn perygl. Bydd y sesiwn yn helpu cyfranogwyr i ystyried trothwyon ar gyfer diogelu yn ogystal â’u helpu nhw i lenwi ffurflenni Dyletswydd i Roi Gwybod i safon uchel. Bydd y sesiwn yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau yng ngwybodaeth neu ddealltwriaeth ymarferwyr ynghylch pa wybodaeth i'w chynnwys ar y ffurflen Dyletswydd i Roi Gwybod, sut mae'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio a beth i'w ddisgwyl ar ôl cyflwyno ffurflen Dyletswydd i Roi Gwybod.

Date(s):28/10/2026 ( 12:00 – 14:00 )

Service User: Oedolion

Cydnerthedd Digidol (02/11/2026)

Sesiwn yw hon ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar y rhyngrwyd ac amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin ar-lein gan gynnwys yr effaith ar ddatblygiad ymennydd ac iechyd meddwl pobl ifanc yn eu harddegau, trosolwg o'r gyfraith yng Nghymru a sut i gael cymorth a chefnogaeth.

Date(s):02/11/2026 ( 10:00 – 12:30 )

Service User: Plant

Grŵp C ar Ddiogelu Plant (04/11/2026)

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer Person neu Bersonau Diogelu Dynodedig a'r rhai sy'n cymryd rhan mwy blaenllaw wrth wneud penderfyniadau o ran diogelu yn eu lleoliadau nhw, gan gynnwys pobl sy'n chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau cynllunio diogelwch.

Date(s):04/11/2026 ( 09:15 – 16:45 )

Service User: Plant

Diogelu Plant ac Oedolion: Ymarferwyr Grŵp B (05/11/2026)

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr Grŵp B sydd â chyfrifoldeb penodol am y bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw ac felly sydd angen lefel uwch o wybodaeth na'r rhai yng Ngrŵp A. Mae ymarferwyr Grŵp B yn gweithio gyda phobl a allai fod â phryderon diogelu, neu beidio, ond nid ydyn nhw'n cymryd rhan mewn cynllunio amddiffyn nac yn eistedd ar grwpiau craidd ac nid oes disgwyl iddyn nhw roi cyngor diogelu i eraill. Bydd ymarferwyr Grŵp B yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon a bydd llinell glir o ran rhoi gwybod y mae disgwyl iddyn nhw ei dilyn.

Date(s):05/11/2026 ( 09:30 – 16:30 )

Service User: Plant Oedolion