Digwyddodd Wythnos Diogelu Genedlaethol eleni rhwng 14 a 18 Tachwedd 2022. Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei gydlynu gan y pum Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yng Nghymru. Mae’n amser a roddir i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu pwysig, dysgu arfer gorau a rhannu gwybodaeth ymhlith y gweithlu Gofal Cymdeithasol a Phartneriaid.
Roedd themâu Bwrdd Diogelu Gwent yn canolbwyntio ar “Ymateb i heriau diogelu cyfoes.” O’n gwaith gyda sefydliadau ac ymarferwyr, rydym yn dod yn gynyddol ymwybodol o nifer o ffynonellau newydd posibl o niwed. Fel eiriolwyr dros ddiogelu, rydym yn cydnabod ei fod yn bwysig ein bod yn parhau’n ymwybodol o sut allai amgylchiadau cyfnewidiol effeithio ar brofiadau pobl a’r perygl iddyn nhw o niwed a chamdriniaeth.
Rhoddodd y Rhaglen Ddiogelu rithwir gynnig amrywiol a oedd yn cynnwys sesiynau dysgu byw ar-lein, sgyrsiau byw, fideos wedi eu recordio o flaen llaw, a gweminarau, yn ogystal â dolenni defnyddiol ar adroddiadau ymchwil a oedd i gyd yn ceisio amlygu materion, hwyluso sgyrsiau a chodi ymwybyddiaeth o arfer gorau. Cynhaliodd Bwrdd Diogelu Gwent ddigwyddiadau trwy’r wythnos gyda chyflwyniadau:
Lorraine Griffiths, Rheolwr Lleoliad BAWSO: ar Briodas Dan Orfodaeth a Chamdriniaeth ar Sail Anrhydedd. Amlygodd y cyflwyniad rai o’r rhesymau pam fod yr arferion diwylliannol yma’n digwydd ac edrychodd ar yr effaith niweidiol ar y dioddefwyr. Bwriad y cyflwyniad oedd atgoffa ymarferwyr mai eu cyfrifoldeb nhw yw cymryd camau mewn perthynas ag unrhyw ddatgeliadau sy’n cael eu gwneud gan Ddioddefwyr a sut allan nhw wneud hyn.
Kathy Jacobs, Rheolwr Prosiect a Betsan Evans, Dirprwy Rheolwr Tîm, Plant ar eu Pennau eu Hunain sy’n Ceisio Lloches (UASC): Edrychodd y cyflwyniad yma ar heriau gweithio gyda’r grŵp yma o bobl ifanc, a’r atebion sy’n cael eu datblygu yng Nghasnewydd a ledled Gwent. Mae Casnewydd, yn hanesyddol, wedi bod yn ganolfan ar gyfer teuluoedd ymfudol a phobl ifanc sy’n dod i Gymru. O dan Gynllun Trosglwyddo Cenedlaethol y Swyddfa Gartref, mae poblogaeth Plant ar eu Pennau eu Hunain sy’n Ceisio Lloches wedi tyfu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae disgwyl i’r cynnydd mewn niferoedd barhau ac mae Awdurdodau Lleol yng Ngwent yn gorfod cymryd Plant ar eu Pennau eu Hunain sy’n Ceisio Lloches bellach.
Simon Howarth a Taliah Drayak, Aelodau Craidd, Rhwydwaith Rheini, Teuluoedd a Cynghreiriaid (PFAN): mae PFAN yn cynnig eiriolaeth a chefnogaeth i rieni mewn meysydd penodol o ddiogelwch plant, gan gynnwys mabwysiadu, ymweld â phlant mewn gofal, a chyfraith diogelu plant. Mae Taliah a Simon yn aelodau o Rwydwaith Rheini, Teuluoedd a Cynghreiriaid. Trafododd y cyflwyniad ran rhieni mewn gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd a rôl allweddol eiriolaeth rheini.
Sharron Wareham, Barnardo’s, Dyfodol Gwell Cymru: Gwasanaeth camdriniaeth rywiol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan gamdriniaeth rywiol o bob math yw Barnardo’s, Gwell Dyfodol Cymru. Dros y ddegawd ddiwethaf, mae mynediad at dechnoleg wedi cynyddu i bawb mewn cymdeithas, efallai hyd yn oed yn fwy gyda phandemig COVID 19. Canolbwyntiodd y cyflwyniad ar dystiolaeth o ymarfer am ffactorau i’w hystyried wrth adnabod, asesu ac ymyrryd â phlant a phobl ifanc sy’n dangos ymddygiad rhywiol niweidiol ar-lein. Rhoddodd fewnwelediad i’r ffactorau sy’n cynyddu perygl o niwed a bod yn agored i niwed i blant mewn mannau digidol, yn ogystal â goblygiadau hyn ar gyfer ymyrraeth.
Cicelie Vobe, Cydlynydd Prosiect Mannau Diogel dros Gymru: Rhoddodd Cicelie gyflwyniad ar y cynllun Mannau Diogel cenedlaethol. Cynllun cyfeirio yw Mannau Diogel sy’n gweithio gyda fferyllfeydd a banciau i gynyddu llwybrau i bobl sy’n goroesi camdriniaeth ddomestig gael cymorth lleol a chenedlaethol. Dywedodd Cicelie wrth gyfranogwyr am y lleoliadau daearyddol a’r teclyn Mannau Diogel ar-lein.
Yr Athro Sally Holland, Cascade, Diwedd cosb gorfforol yng Nghymru (fideo wedi ei recordio): Siaradodd Sally Holland, Athro mewn Gwaith Cymdeithasol yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, am y newid diweddar yn y gyfraith yng Nghymru sy’n rhoi diwedd ar unrhyw amddiffyniad cyfreithiol mewn perthynas â chosbi plant yn gorfforol. Trafododd Sally goblygiadau hyn i rieni a gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol a grwpiau cymunedol yn ehangach, a’r plant eu hunain.
Y Ditectif Arolygydd Jamie Cooper, Tîm POLIT, Heddlu Gwent: Edrychodd y cyflwyniad yma ar y ffurfiau gwahanol o gamdriniaeth ar-lein sy’n digwydd yn gynyddol, gan edrych yn benodol ar waith Tîm Ymchwilio Ar-lein yr Heddlu (POLIT), tîm o swyddogion arbenigol sy’n ymroi i ymchwilio i feddiannu a rhannu delweddau anweddus ar-lein.
Babs Walsh, Cydlynydd Rhanbarthol, VAWDASV Gwent: ‘Cyflwyniad cryno i Gamdriniaeth Trwy Dechnoleg (TFA) – ‘Ffordd o reoli ymddygiad cymhellol, gan alluogi i gamdriniaeth ddigwydd o fewn y cartref ac o bell, gan ddefnyddio technoleg a’r rhyngrwyd’. Fe wnaeth y cyflwyniad helpu pobl broffesiynol i fod yn ymwybodol o gamdriniaeth trwy dechnoleg a sut all chwarae rôl allweddol mewn camdriniaeth ddomestig.
Hoffem estyn diolch twymgalon i bob un o’r cyflwynwyr a gyfrannodd yn ystod wythnos diogelu, derbyniwyd y cyflwyniadau i gyd gyda diolch o’r mwyaf.