Fforwm Ymarferwyr - Digwyddiadau Mis Mai 2024

Wedi ei bostio ar:03/06/2024

Ym mis Mai, hwylusodd Rhwydweithiau Diogelu Lleol Bwrdd Diogelu Gwent ddigwyddiadau ar-lein i ymarferwyr ar y thema ‘Gwella Arfer: Dysgu o Adolygiadau.’

Yn 2023, cafodd dau adolygiad cenedlaethol ar raddfa fawr eu cyhoeddi (Adolygiad Cyflym o Amddiffyn Plant Arolygiaeth Gofal Cymru ac Adolygiad Thematig Ymarfer Plant y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, 'Risg, Ymateb ac Adolygu') a amlygodd ddysgu ar gyfer yr holl fyrddau diogelu rhanbarthol a phartneriaid. Roedd y cyflwyniadau yn ystod y digwyddiadau yn archwilio pwysigrwydd y broses adolygu, gan dynnu sylw at rai o’r meysydd dysgu allweddol sydd wedi eu nodi, ac yn pwysleisio’r cysylltiadau â blaenoriaethau strategol y Bwrdd sydd wedi'u nodi yng nghynllun strategol 2023-26. Arweiniodd y digwyddiadau at bresenoldeb o bron i 300 o ymarferwyr o sefydliadau statudol a sefydliadau'r trydydd sector ar draws dwy sesiwn ac roedd llawer o drafod yn dilyn pob cyflwyniad, gan ddangos yr ymrwymiad i ddysgu ar draws y rhanbarth. Mae adborth yn awgrymu bod y cyfranogwyr wedi gweld y digwyddiadau'n addysgiadol ac wedi peri iddyn nhw feddwl, ac roedden nhw'n croesawu'r cyfle i fyfyrio.

Hoffai’r Bwrdd achub ar y cyfle i ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiadau ac maen nhw'n awyddus i weld hyn yn cael ei ailadrodd yn ystod yr Wythnos Ddiogelu, sef yr wythnos yn dechrau ar 11 Tachwedd.