Gwasanaethau Cymorth

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind, neu unrhyw un arall rydych chi’n poeni amdanyn nhw neu’n eu cynorthwyo wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu drafod eich opsiynau.

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost am wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn lleol neu'n genedlaethol.