Eiriolaeth

Os ydych chi'n dioddef Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol gallech dderbyn cefnogaeth gan eiriolwr. Mae nifer o wahanol fathau o gymorth eiriolaeth ar gael gan gynnwys IDVA (Ymgynghorwyr Trais Domestig Annibynnol), ISVA (Ymgynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol ) ac ICTA (Eiriolwr Annibynnol ar Fasnachu Plant ). I gael gwybodaeth am bob un o'r rhain, gweler yma.

Ymgynghorydd Trais Domestig Annibynnol (IDVA)

Prif bwrpas ymgynghorwyr trais domestig annibynnol (IDVA) yw mynd i'r afael â diogelwch dioddefwyr sydd mewn perygl mawr o niwed gan bartneriaid agos, cynbartneriaid neu aelodau o'r teulu i'w cadw hwy a'u plant yn ddiogel. Yn gwasanaethu fel prif bwynt cyswllt y dioddefwr, mae IDVAs fel arfer yn gweithio gyda'u cleientiaid o'r pwynt argyfwng i asesu lefel y risg, i drafod yr ystod o opsiynau addas ac i ddatblygu cynlluniau diogelwch.

Maent yn rhagweithiol o ran gweithredu'r cynlluniau, sy'n mynd i'r afael â diogelwch ar unwaith, gan gynnwys camau ymarferol i amddiffyn eu hunain a'u plant, yn ogystal ag atebion tymor hwy. Bydd y cynlluniau hyn yn cynnwys camau gweithredu gan y MARAC yn ogystal â sancsiynau a datrysiadau sydd ar gael drwy'r llysoedd troseddol a sifil, opsiynau tai a gwasanaethau sydd ar gael trwy sefydliadau eraill. Mae IDVAs yn darparu cefnogaeth ac yn gweithio dros y tymor byr i'r tymor canolig i'w rhoi ar y llwybr at ddiogelwch hirdymor. Maent yn derbyn hyfforddiant achrededig arbenigol ac yn meddu ar gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Am eu bod yn gweithio gyda'r achosion risg uchaf, mae IDVAs yn fwyaf effeithiol fel rhan o wasanaeth IDVA ac o fewn fframwaith aml-asiantaeth. Rôl yr IDVA ym mhob lleoliad aml-asiantaeth yw cadw safbwynt a diogelwch y cleient wrth wraidd y trafodion.

Mae astudiaethau wedi dangos, pan fydd cleientiaid uchel eu risg yn ymgysylltu ag IDVA, bod gwelliannau clir a mesuradwy mewn diogelwch, gan gynnwys gostyngiad yn nifer yr achosion o gam-drin a'u difrifoldeb a gostyngiad neu hyd yn oed diwedd ar achosion o gam-drin dro ar ôl tro.

Yng Ngwent mae yna sawl IDVA wedi eu lleoli ymhob ardal Awdurdod Lleol.

I gael gwybodaeth bellach, ewch i www.safelives.org.uk

Ymgynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA)

Mae llawer o asiantaethau cymorth arbenigol, gan gynnwys y rheini sydd wedi'u lleoli yng Ngwent, yn cynnig gwasanaeth Ymgynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA) i ddioddefwyr / goroeswyr trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol. Comisiynwyd rôl yr Ymgynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol gan y Farwnes Stern trwy Uned Troseddau Treisgar y Swyddfa Gartref yn 2005.

Mae ISVA wedi'i hyfforddi i ofalu am eich anghenion, ac i sicrhau eich bod yn derbyn gofal a dealltwriaeth. Byddant yn eich helpu i ddeall sut mae'r broses cyfiawnder troseddol yn gweithio, a byddant yn esbonio pethau i chi, fel beth fydd yn digwydd os byddwch yn adrodd i'r heddlu, a phwysigrwydd a phroses canfod DNA fforensig.

Mae ISVA yno i roi gwybodaeth i chi yn unig fel y gallwch wneud y penderfyniad sy'n iawn i chi. Trwy gysylltu â nhw, ni ddisgwylir i chi roi gwybod i'r heddlu am unrhyw drosedd.

I gael gwybodaeth bellach, ewch i www.thesurvivorstrust.org

Eiriolwr Annibynnol ar Fasnachu mewn Plant (ICTA)

Mae Eiriolwyr Annibynnol ar Fasnachu mewn Plant (ICTAs) yn weithwyr proffesiynol arbenigol sy'n darparu cefnogaeth i blant y canfuwyd eu bod wedi'u masnachu neu y gallent gael eu masnachu i lywio drwy'r systemau cymhleth o ofal cymdeithasol, mewnfudo a chyfiawnder troseddol.

Treialwyd y ddarpariaeth ICTA gan Barnardos yn 2014 -2015 ac rydym bellach wedi sefydlu'r Gwasanaeth ICTA mewn tri Safle Mabwysiadu Cynnar ledled Cymru a Lloegr. Comisiynwyd hwy gan y Swyddfa Gartref.

Mae rôl ICTA wedi ei amlinellu yn a.48 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015

I gael gwybodaeth bellach, ewch i www.barnardos.org.uk