Datgelu

Os ydych chi'n gofidio bod rhywun yr ydych chi'n ei adnabod yn cael ei gam-drin, p'un a yw hyn mewn modd proffesiynol neu gan aelod o deulu / ffrind, bydd yr adran hon yn eich helpu i'w cefnogi.

Os ydynt mewn perygl uniongyrchol, cysylltwch ar 999 am gymorth.

Galluogi datgeliad a gwneud ymholiadau diogel

Os ydych chi’n gofidio, ceisiwch gael mwy o wybodaeth.

  • Ewch ati i greu cyfle i weld y person mewn lle diogel
  • Gwnewch yn siŵr bod yr unigolyn yr ydych chi'n gofidio amdano ar ei ben ei hun, yn ddelfrydol heb blant hŷn neu aelodau eraill o'r teulu ond bob amser heb y partner neu'r aelod o'r teulu a allai fod yn eu niweidio.
  • Os ydych chi'n defnyddio cyfieithydd, gwnewch yn siŵr ei fod yn hollol annibynnol.

Mae’n bwysig:

  • Gadewch i'r person siarad ar ei gyflymder ei hun ac yn ei eiriau ei hun
  • Peidiwch â chynhyrfu, byddwch yn sensitif, niwtral a dangos ei fod yn iawn i siarad, a bydd pobl yn gwrando
  • Gofynnwch gwestiynau agored e.e. “Beth ddigwyddodd wedyn?” / “Sut wnaeth hynny i chi deimlo?” Ond peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi ofyn popeth ar unwaith
  • Gofynnwch gwestiynau uniongyrchol yn ôl yr angen e.e. “Wnaeth e / hi eich taro chi?” / “A ydych chi'n ofni?”
  • Peidiwch â gofyn cwestiynau arweiniol e.e. “Fe wnaeth e/hi dy daro yndo?” / “Rwyt ti'n ofnus, on'd wyt ti?”
  • Peidiwch â chael eich temtio i ofyn gormod
  • Cydnabyddwch pa mor anodd / poenus / brawychus y mae'r sefyllfa'n swnio a'u bod nhw wedi gwneud cam mawr, dewr i siarad â chi
  • Rhowch sicrwydd iddynt nad eu bai nhw yw hyn - nid bai'r dioddefwr yw'r cam-drin....byth. Yr un sy'n cam-drin sy'n gyfrifol am gam-drin.
  • Esboniwch derfynau cyfrinachedd ac os oes plant, bod rhaid atgyfeirio at Ofal Cymdeithasol Plant, er mwyn iddynt ymchwilio i gefnogaeth bellach i'r dioddefwr a'r plant
  • Esboniwch eich bod yn poeni am yr unigolyn ac eisiau eu cefnogi; mae'n iawn bod yn onest am eich pryder - ni allwch ddatrys y broblem, ond gallwch helpu'r person i gael cymorth
  • Gofynnwch pa gymorth yr hoffai'r unigolyn ei gael / sut mae'r unigolyn yn meddwl y gallwch chi helpu
  • Trafodwch gynlluniau diogelu (galw'r heddlu, aros gyda theulu neu ffrindiau, mynd i loches neu fynd at adran dai'r Cyngor i drafod symud ar frys, siarad â gweithiwr cymorth arbenigol) a chyfeirio at adnoddau
  • Lle mae gofidion ynghylch trais ar sail ‘anrhydedd’ mae'n bwysig ystyried lefel cyfranogiad y teulu a'r gymuned ehangach
  • Peidiwch â dweud wrth yr unigolyn beth y mae'n rhaid iddynt ei wneud a pheidiwch â dweud wrtho/wrthi am roi wltimatwm i'r tramgwyddwr i stopio'r cam-drin neu fygwth i adael - gall hyn gynyddu'r risg yn hytrach na'i leihau; gwahanu hefyd yw'r amser mwyaf peryglus.
  • Esboniwch y camau nesaf am yr hyn y byddwch chi'n ei wneud gyda'r wybodaeth a sut y byddwch yn dweud y diweddaraf wrth yr unigolyn

Gweler y ddogfen hon i gael cymorth ar lwybrau atgyfeirio.

Cynllun Datgelu Trais Domestig (Cynllun Clare)

Gweler hefyd yr Adran Gwasanaethau Cymorth am asiantaethau eraill a all helpu.