Asesu Risg a Chynllunio Diogelwch

Pan fydd rhywun yn dioddef unrhyw fath o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, mae'n hanfodol asesu'r perygl y mae'r unigolyn yn ei wynebu, a hynny mewn modd gywir a chyflym, fel y gallant gael y cymorth cywir cyn gynted â phosibl.

Rhestr Wirio Risg DASH

Mae rhestr wirio risg SafeLives Dash yn ffordd sydd wedi ei threialu i ddeall risg. Mae Dash yn sefyll am gam-drin domestig, stelcio a thrais ar sail ‘anrhydedd’. Mae'r cwestiynau'n seiliedig ar ymchwil helaeth i gam-drin domestig.

I bwy mae’r rhestr? Pwy all ei defnyddio?

Gellir defnyddio rhestr wirio risg Dash ar gyfer pob perthynas agos â chymar, gan gynnwys perthynas LGBT, yn ogystal ag ar gyfer trais ar sail anrhydedd a thrais teuluol. Fe'i bwriedir yn bennaf i weithwyr proffesiynol - gweithwyr trais domestig arbenigol, fel Idvas, a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio i wasanaethau prif ffrwd. Ei nod yw darparu dealltwriaeth unffurf o risg ar draws proffesiynau. Mae fersiwn benodol o'r rhestr wirio ar gael ar gyfer yr heddlu, a chaiff ei defnyddio gan y mwyafrif o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Gwent.

Sut mae’n gweithio?

Mae'r gyfres syml o gwestiynau yn ei gwneud yn hawdd canfod y risg y mae rhywun yn ei hwynebu, a'r hyn y gallai fod ei angen arnynt i fod yn ddiogel ac yn iach. Mae sgôr uchel yn golygu bod y dioddefwr mewn perygl mawr o lofruddiaeth a / neu niwed difrifol ac mae angen help ar frys arno. Dylai'r dioddefwyr hyn gael help gan Idva, a dylai'r holl asiantaethau lleol perthnasol ddod at ei gilydd mewn cyfarfod Marac i wneud cynllun i'w gwneud yn ddiogel. Mae rhestr wirio risg Dash yn ogystal â chanllawiau ar sut i ddefnyddio'r offeryn, gael mewn sawl iaith.

Ni all Dash gymryd lle barn broffesiynol hanfodol. Ni all ddisodli'r angen am hyfforddiant. Mae'n ganllaw. Am y rheswm hwn mae'n bwysig bod y person sy'n cwblhau'r Dash wedi derbyn hyfforddiant priodol - gweler yr adran hyfforddi am fanylion.

I gael gwybodaeth bellach, ewch i www.safelives.org.uk

Cynhadledd Asesu Risg Aml-asiantaeth (MARAC) ar Gam-drin Domestig

Mae MARAC yn gyfarfod lle rhennir gwybodaeth ar yr achosion o gam-drin domestig uchaf eu risg rhwng cynrychiolwyr yr heddlu lleol, iechyd, amddiffyn plant, ymarferwyr tai, Ymgynghorwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVA), y gwasanaeth prawf ac arbenigwyr eraill o'r sectorau statudol a gwirfoddol.

Ar ôl rhannu'r holl wybodaeth berthnasol sydd ganddynt am ddioddefwr, mae'r cynrychiolwyr yn trafod opsiynau i wella diogelwch y dioddefwr ac yn troi'r rhain yn gynllun gweithredu cydlynol. Prif ffocws y MARAC yw diogelu'r oedolyn sy'n dioddef. Bydd y MARAC hefyd yn gwneud cysylltiadau â fforymau eraill i ddiogelu plant a rheoli ymddygiad y tramgwyddwr. Wrth wraidd MARAC yw'r rhagdybiaeth nad oes unrhyw asiantaeth neu unigolyn unigol yn gallu gweld y darlun cyflawn o fywyd dioddefwr, ond mae'n bosibl y bydd gan bob un ciplun sy'n hanfodol i'w diogelwch. Nid yw'r dioddefwr yn mynychu'r cyfarfod ond caiff ei gynrychioli gan IDVA sy'n siarad ar ei ran.

Yng Ngwent, cynhelir cyfarfodydd MARAC bob pythefnos ymhob ardal awdurdod lleol.

I gael gwybodaeth leol, ewch i www.safelives.org.uk

Cynhadledd Asesu Risg Aml-asiantaeth ar Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu mewn Pobl (MSHT)

Mae MARAC MSHT yn gyfarfod lle rhennir gwybodaeth am y risg anhysbys neu risg uchel a ganfuwyd i unigolyn neu grŵp o bobl y nodwyd eu bod yn gaethweision modern neu yr amheuir eu bod wedi cael eu cam-drin. Rhennir gwybodaeth rhwng cynrychiolwyr o'r asiantaethau statudol a'r trydydd sector.