Poeni am eich ymddygiad?

Os ydych chi’n poeni am eich ymddygiad eich hun, neu ymddygiad rhywun rydych chi'n ei adnabod, mae cyngor, cefnogaeth ac arweiniad ar gael.

Mae Respect yn cynnig llinell gymorth, e-bost a gwasanaeth gwe-sgwrsio gyfrinachol i'r rheini sy'n cyflawni trais domestig sy'n chwilio am help i roi'r gorau iddi. Maent yn helpu dynion a menywod, mewn perthnasoedd heterorywiol neu berthnasoedd un rhyw. Mae croeso i bartneriaid neu gynbartneriaid troseddwyr, yn ogystal â chyfeillion pryderus ac aelodau o'r teulu a Gweithwyr Rheng Flaen gysylltu â nhw am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

I gael gwybodaeth bellach, ewch i http://respect.uk.net

Mae rhaglenni cymorth yng Ngwent ar gael i bobl sydd am newid eu hymddygiad.