Cymorth a Chyngor
Gweler yr adran hon i gael gwybodaeth am y mathau o gymorth a chyngor a'r ffynonellau cymorth a chyngor sydd ar gael os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn dioddef (neu mewn perygl o ddioddef) unrhyw fath o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar sut i gael cymorth os ydych chi'n poeni am eich ymddygiad eich hun, neu ymddygiad rhywun sy'n agos atoch chi.
Mae’r llinellau cenedlaethol yn cynnwys:
- Byw Heb Ofn: 0808 8010 800
- Llinell Gymorth Genedlaethol FGM yr NSPCC: 0800 028 3550
- Llinell Gymorth yr Uned Priodas dan Orfod: 020 7008 0151
- Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern: 0800 0121 700