Cam-drin domestig

Beth yw Cam-drin Domestig?

Yn ôl Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 mae cam-drin domestig yn golygu 'cam-drin lle mae cyswllt rhwng y dioddefwr a'r un sy'n cam-drin neu lle y bu cyswllt ar un adeg. Gall hyn gael ei gyflawni gan gymar agos, cyn gymar, priod, partner sifil neu aelod o'r teulu '(mae diffiniad llawn o berthnasau agos a theuluol yn y Ddeddf).

Gall y cam-drin fod yn cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol.

Mae hyn yn unol â diffiniad y Swyddfa Gartref o gam-drin domestig fel 'unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o reoli, gorfodi, ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin rhwng y rhai sy'n 16 oed neu'n hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn gymheiriaid agos neu'n aelodau o'r teulu, waeth beth fo'u rhyw neu rywioldeb'.

Gall unrhyw un ddioddef cam-drin domestig, beth bynnag fo'u rhyw, oedran, ethnigrwydd, statws economaidd-gymdeithasol, rhywioldeb neu gefndir.

Mae gwahanol fathau o gam-drin a all ddigwydd mewn gwahanol gyd-destunau. Mae'r math mwyaf cyffredin o gam-drin domestig yn digwydd mewn perthynas. Ond mae'r diffiniad o gam-drin domestig hefyd yn cynnwys cam-drin rhwng aelodau'r teulu, fel trais tuag at rieni a’u cam-drin.

Gall y cam-drin gynnwys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i:

  • Seicolegol ac emosiynol - eich rhoi chi i lawr, eich ynysu oddi wrth ffrindiau a theulu, eich beio, eich bygwth, gwneud i chi deimlo eich bod ar bigau'r drain'
  • Corfforol - cicio, trin yn arw, taro, llosgi, dyrnu, ysgwyd, tagu
  • Rhywiol - eich gorfodi i gael rhyw [trais] neu eich brifo yn ystod rhyw, eich atal rhag ymarfer rhyw diogel, mynd yn flin os nad ydych chi'n cydymffurfio â gofynion rhywiol)
  • Ariannol - cymryd eich arian, eich cadw'n brin o arian, cwestiynu gwariant, mynd i ddyled yn eich enw chi
  • Rheolaeth Gymhellol - Mae Deddf Troseddau Difrifol 2015 yn diffinio'r drosedd o ymddygiad gymhellol a rheoli o fewn perthynas agos neu deuluol fel cam-drin domestig. 'Mae ymddygiad sy'n rheoli yn ystod o gamau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i wneud person yn is, a / neu'n ddibynnol trwy eu hynysu rhag ffynonellau cymorth, manteisio ar eu hadnoddau a'u galluoedd er budd personol, gan eu hamddifadu o'r modd sydd ei angen i fyw'n annibynnol, ymwrthod a dianc, a rheoleiddio eu hymddygiad bob dydd Mae ymddygiad gymhellol yn weithred neu batrwm o weithredoedd ymosodol, bygythiadau, sarhad a bychanu neu fodd arall o gam-drin a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn eu dioddefwr.

Os ydych chi'n credu eich bod chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn dioddef Trais Domestig, ewch i'r adran 'Cymorth a Chyngor'.