Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Ngwent
Mae Bwrdd Partneriaeth VAWDASV Gwent yn gydweithrediad aml-asiantaeth sy'n cydweithio ar draws Gwent i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac i wella'r canlyniadau i unigolion a'u teuluoedd yr effeithir arnynt. Gweler yma am fanylion Partneriaeth Gwent a'r gwaith y mae'n ei wneud i gyflawni'r Strategaeth VAWDASV ranbarthol.
Ein Partneriaeth
Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys; y pum awdurdod lleol, Heddlu Gwent, a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaethau Prawf, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cefnogi Pobl, y Gwasanaeth Tân ac Achub, Byrddau Diogelu Gwent , Partneriaid sector arbenigol VAWDASV a sefydliadau’r sector gwirfoddol.
Ein nod yw cydweithio mewn partneriaeth i sicrhau'r ymateb mwyaf effeithlon ac effeithiol i atal niwed difrifol a achosir gan fathau o gam-drin er lles a diogelwch pobl sy'n byw yng Ngwent, heddiw ac yn y dyfodol.
Mae Partneriaeth VAWDASV Gwent yn cael ei chydlynu gan dîm rhanbarthol VAWDASV. Gellir cysylltu â'r tîm rhanbarthol drwy e-bostio: vawdasv.gwent@newport.gov.uk
Pam rydym yn ei wneud
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn achosion sylfaenol o dorri hawliau dynol. Bob blwyddyn caiff bywydau eu difrodi'n ddiangen yng Ngwent. Mae pob math o drais a cham-drin yn annerbyniol. Mae unrhyw un sy'n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn haeddu ymateb effeithiol ac amserol gan bob gwasanaeth cyhoeddus.
Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i'r sector cyhoeddus yng Nghymru weithio gyda'i gilydd mewn ffordd gyson a chydlynol i atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a gwella'r canlyniadau i unigolion a'u teuluoedd yr effeithir arnynt.
Gellir cael gwybodaeth bellach ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yma.
Fel rhan o'r gofynion statudol a osodir ar Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol dan Adran 5 Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mae Bwrdd Partneriaeth Gwent wedi cyhoeddi Strategaeth 5 mlynedd ar gyfer VAWDASV.
Mae'r Bwrdd Partneriaeth yn darparu'r strwythur rheoli fydd yn datblygu ac yn monitro gwaith rhanbarthol VAWDASV. Drwy strwythur o weithgorau byddwn yn sicrhau bod y blaenoriaethau a nodwyd yn y Strategaeth yn cael eu troi'n weithredoedd a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les a diogelwch pobl sy'n byw yng Ngwent, nawr ac yn y dyfodol.
