Ymgysylltiad

Mae Strategaeth VAWDSAV Gwent yn cydnabod pa mor hanfodol yw cydweithio â goroeswyr a defnyddwyr gwasanaeth, ynghyd â phobl sy'n agos atynt, sy'n 'arbenigwyr trwy brofiad' o ran yr hyn sydd wedi gweithio iddynt, eu llwybrau trwy wasanaethau a pha mor hawdd (neu anodd) ydoedd i ddod o hyd i'r gwasanaeth cywir a symud tuag at annibyniaeth a rhyddid rhag camdriniaeth.

Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ar sut y gall pobl fod yn rhan o'r broses i'n helpu i ymgysylltu a chyfrannu a helpu i lunio’r cymorth ar draws Gwent.