Cam-drin yn seiliedig ar anrhydedd (HBA)

Mae cam-drin yn seiliedig ar anrhydedd (HBA) yn drosedd neu ddigwyddiad treisgar a all gael ei gyflawni i amddiffyn neu warchod anrhydedd y teulu neu'r gymuned. Yn aml mae'n gysylltiedig ag aelodau o'r teulu neu berthynas sy'n credu bod rhywun wedi dod â chywilydd ar eu teulu neu gymuned trwy wneud rhywbeth nad yw'n cyd-fynd â chredoau traddodiadol eu diwylliant. Gall hyn gynnwys pethau fel bod yn gysylltiedig â chariad o ddiwylliant neu grefydd wahanol, eisiau dianc rhag priodas sydd wedi'i threfnu neu ei gorfodi, gwisgo dillad neu gymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddent yn cael eu hystyried yn draddodiadol mewn diwylliant penodol. Gellir disgrifio HBA fel casgliad o arferion a ddefnyddir i reoli ymddygiad o fewn teuluoedd neu grwpiau cymdeithasol eraill i ddiogelu credoau a / neu anrhydedd diwylliannol a chrefyddol canfyddedig.

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth ar faterion yn ymwneud â Cam-drin yn seiliedig ar anrhydedd, Priodas dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, ewch i wefan Byw Heb Ofn.