Benyw-laddiad
Yn gyffredinol, deallir mai benyw-laddiad yw llofruddio menywod yn fwriadol am eu bod yn fenywod, ond mae diffiniadau ehangach yn cynnwys lladd unrhyw fenywod neu ferched. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, fel arfer dynion sy'n cyflawni Benyw-laddiad, ond weithiau gall aelodau benywol o'r teulu gymryd rhan. Mae benyw-laddiad yn wahanol i ddynladdiad mewn ffyrdd penodol. Er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o achosion o benyw-laddiadau yn cael eu cyflawni gan gymheiriaid neu gyn-gymheiriaid, ac maent yn cynnwys cam-drin parhaus yn y cartref, bygythiadau neu fychanu, trais rhywiol neu sefyllfaoedd lle mae gan fenywod llai o bŵer neu lai o adnoddau na'u cymheiriaid.
Yn y Deyrnas Unedig, dros y deng mlynedd diwethaf ar gyfartaledd, lladdwyd dwy fenyw yr wythnos gan eu cymheiriaid neu gyn-gymheiriaid. Yn aml, mae'r llofruddiaethau hyn yn rhagfwriadol ac yn dilyn patrwm o drais a cham-drin sy'n dychryn y dioddefwr.
Nodir y mathau o benyw-laddiadau fel a ganlyn: Benyw-laddiad mewn perthynas agos; Llofruddiaethau yn enw 'anrhydedd'; Benyw-laddiadau sy'n gysylltiedig â gwaddol; a Benyw-laddiad nad yw'n berthynas agos
Ers 2016 cyhoeddwyd Cyfrifiad Benyw-laddiad yn y DU. Mae'r Cyfrifiad Benyw-laddiad yn gronfa ddata sy'n cynnwys gwybodaeth am dros fil o fenywod a laddwyd gan ddynion yng Nghymru a Lloegr ers 2009. Mae'n brosiect arloesol sy'n ceisio rhoi darlun cliriach o drais angheuol dynion yn erbyn menywod trwy ganiatáu olrhain a dadansoddi manwl . Gellir dod o hyd i gopi o gyfrifiad 2017 yng Nghyfrifiad Benyw-laddiadau: Canfyddiadau 2017
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn dioddef, neu mewn perygl o unrhyw rhai o'r mathau hyn o gam-drin, ewch i'r adran 'Cymorth a Chyngor'.