Priodasau dan Orfod (FM)
Priodas dan orfod yw pan nad yw un person, neu'r ddau (neu mewn achosion o bobl ag anableddau dysgu, yn methu) yn cytuno i briodi ac o ganlyniad byddant yn cael eu rhoi dan bwysau a chael eu cam-drin. Gellir diffinio hyn fel gorfodi person (trwy rym corfforol neu orfodaeth drwy fygythiadau neu ddulliau seicolegol eraill) i gymryd rhan mewn seremoni briodas grefyddol neu sifil (boed yn gyfreithiol rwymol ai peidio). Gall y pwysau a roddir ar bobl i briodi yn erbyn eu hewyllys fod yn gorfforol (gan gynnwys bygythiadau, trais corfforol a thrais rhywiol) neu emosiynol a seicolegol (er enghraifft, pan fydd rhywun yn cael ei orfodi i deimlo eu bod yn dod â chywilydd ar eu teulu). Gall cam-drin ariannol (cymryd eich cyflog neu beidio â rhoi unrhyw arian i chi) hefyd fod yn ffactor.
Mae priodasau dan orfod yn digwydd mewn llawer o grefyddau ac ar draws cenhedloedd, ac nid yw'n effeithio ar ferched yn unig - gall bechgyn hefyd gael eu gorfodi i briodi. Gall hefyd ddigwydd i blant ac oedolion. Gall gwrthod priodi rhywun a ddewisir gan y teulu gael ei ystyried yn ddiffyg parch a all arwain at drais ar sail anrhydedd.
Mae Priodi dan Orfod yn cael ei gydnabod yn y DU fel math o gam-drin ac yn groes i hawliau dynol. Mae'n drosedd benodol dan a121 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014.
Y Swyddfa Gartref a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy'n gyfrifol am bolisi sy'n ymwneud â phriodas dan orfod. Maent wedi sefydlu'r Uned Priodasau dan Orfod a'i rôl yw darparu gwybodaeth a chymorth i'r sawl sy'n wynebu priodas dan orfod, a darparu cyngor i weithwyr proffesiynol sy'n ymdrin ag achosion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Foreign and Commonwealth Office.