Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)
Mae FGM sydd hefyd yn cael ei adnabod fel enwaedu benywod neu dorri organau cenhedlu benywod yn cael ei ddiffinio gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fel " yr holl gamau sy'n cynnwys tynnu organau cenhedlu benywod yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu wneud anaf arall i organau cenhedlu benywod am resymau anfeddygol".
Mae FGM yn anghyfreithlon yn y DU dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003.
Enwaedwyr traddodiadol sy’n cwblhau'r arfer yn bennaf ac maent yn aml yn chwarae rolau canolog eraill mewn cymunedau, fel mynychu genedigaethau plant. Mewn llawer o leoliadau, mae darparwyr gofal iechyd yn cwblhau'r weithred o anffurfio organau cenhedlu benywod oherwydd y gred bod y driniaeth yn fwy diogel os yw'n weithred feddygol. Mae cymunedau yn y DU sydd mewn perygl o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn cynnwys merched a menywod Somalia, Kenya, Ethiopia, Sierra Leone, Sudan, yr Aifft, Nigeria, Eritrea, Yemen, Cwrdistan ac Indonesia (Pecyn Adnoddau FGM y Swyddfa Gartref 2019).
Credir bod FGM yn ffordd o sicrhau gwyryfdod a phurdeb. Fe'i defnyddir i ddiogelu merched rhag rhyw y tu allan i briodas a rhag cael teimladau rhywiol. Er bod cymunedau seciwlar yn ymarfer FGM, yn aml iawn honnir ei fod yn cael ei wneud yn unol â chredoau crefyddol. Nid oes unrhyw athrawiaeth grefyddol i gefnogi FGM.
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu Pecyn Adnoddau Anffurfio Organau Rhywiol Menywod sy'n cynnwys gwybodaeth am ddeddfwriaeth, astudiaethau achos, arferion ac adnoddau effeithiol ynghyd â chysylltiadau defnyddiol, llinellau cymorth a chlinigau.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu gwybodaeth a ffeithiau allweddol ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod gan gynnwys y gwahanol fathau o weithdrefnau ac arferion a ddefnyddir.
Cliciwch yma i lawr lwytho Cyflwyniad Gweledol ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a ddarperir gan Sefydliad Iechyd y Byd.