Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol
Mae'r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol hwn (y 'Cynllun') yn ystyried cam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys camfanteisio'n rhywiol ar blant ac ymddygiad rhywiol niweidiol. Wrth edrych ymlaen, bydd y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol hwn yn ein cynorthwyo ni i asesu gweithrediad y canllawiau statudol sydd i ddod, Gweithio gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cyfrol 7 – Diogelu Plant rhag Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant, a'r Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan ar Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant ac Ymddygiad Rhywiol Niweidiol pan fyddant yn cael eu cyhoeddi gan y Byrddau
Mae'r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol wedi'i seilio ar 10 amcan y mae gan bob un gamau i Lywodraeth Cymru a Byrddau Diogelu Rhanbarthol ymateb iddynt. Yn y cynllun gweithredu mae cysylltiadau defnyddiol i ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu, rhannu gwybodaeth ynghyd â chyfeirio at wasanaethau pwnc penodol. Rhestrir y rhain isod hefyd i ddarparu mynediad cyflym
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol
Ymchwil
Mae Child Sexual Abuse Centre yn ceisio magu hyder yn y gweithlu i fynd i'r afael â CSA trwy wella mynediad at, ac ymgorffori tystiolaeth, yn ymarferoln Maent yn gweithio gyda sefydliadau ac arweinwyr traws-sector i sicrhau bod eu hymdrechion ymchwil wedi'u seilio ar brofiad ymarfer a gwella gwasanaethau.
Isod mae rhai adnoddau allweddol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymarferwyr, comisiynwyr a llunwyr polisi sy'n gweithio i nodi, atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol.
- Negeseuon allweddol o ymchwil ar nodi ac ymateb i ddatgeliadau o gam-drin plant yn rhywiol
- Negeseuon allweddol o ymchwil ar gam-drin plant yn rhywiol o fewn teuluoedd
- Negeseuon allweddol o ymchwil ar gam-drin plant yn rhywiol mewn sefydliadau
- Negeseuon allweddol o ymchwil ar blant sy'n dangos ymddygiad rhywiol niweidiol
- Negeseuon allweddol o ymchwil ar blant sy'n derbyn gofal a cham-drin plant yn rhywiol
- Peidiwch ag aros iddynt ddweud wrthym: cydnabod ac ymateb i arwyddion o gam-drin plant yn rhywiol
- Myth o ‘wybod yn absoliwt’: pryd mae’r dystiolaeth yn ddigonol?
- “Rhaid eu bod yn gwybod!”: Gweithio’n effeithiol gyda rhieni nad ydynt yn cam-drin.
Ymgyrch
- Stop it Now Cymru Atal Cam-drin Rhywiol Plant - Mae'n hen bryd i ni siarad amdano
- Poster Atal Cam-drin Plant
- Taflen Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol
- Pecyn Adnoddau Cam-drin Plant yn Rhywiol - Datblygwyd y pecyn adnoddau hwn er mwyn gweithredu a hyrwyddo Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol