Iechyd Meddwl a Lles
Yn union fel ein hiechyd corfforol, mae angen i bob un ohonom ofalu am ein hiechyd meddwl.
O bryd i'w gilydd, mae gan bob un ohonom broblemau sy'n effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles, p'un a yw'n teimlo'n anghyfforddus am ein cyrff, yn poeni am berthnasoedd, yn bryderus am yr ysgol neu deimlo’n grac â ni’n hunain am y ffordd rydym yn teimlo. Gall siarad am bethau deimlo'n anodd, ond mae llawer o bobl yn barod i helpu, drwy roi gwybodaeth, cymorth a chyngor i chi. Bydd y gwefannau canlynol yn rhoi cyngor i chi ar sut i reoli materion iechyd meddwl.
Childline - Cymorth, cyngor, clipiau fideo ar reoli eich iechyd meddwl yn cynnwys pynciau fel: gofalu amdanoch chi'ch hun, pyliau o banig, ymdopi â straen, technegau i ymdopi a hunan-niweidio, ymdopi â theimladau hunanladdol, adeiladu hunan hyder.
Young Minds - Yn ymwneud â gofalu amdanoch chi'ch hun, teimladau a chyflyrau iechyd meddwl. Gwybodaeth a chyngor ar: teimlo'n grac, cam-drin, delwedd y corff, bwlio, marwolaeth a cholled, problemau bwyta, problemau yn yr ysgol, hunan-niweidio, problemau cwsg a theimladau hunanladdol.