Cam-drin Plant - Beth mae hyn yn ei olygu?
Cam-drin Plant yw unrhyw beth y mae unigolyn yn ei wneud gyda'r bwriad o achosi niwed i rywun dan 18 oed.
Nid yw bob amser yn hawdd gwybod beth yw cam-drin neu beth i'w wneud amdano.
Dysgwch mwy am y gwahanol fathau a sut i gael cefnogaeth gan Childline.
Gallwch siarad â Childline am unrhyw beth. Nid yw unrhyw broblem yn rhy fawr nac yn rhy fach.
Ffoniwch nhw am ddim ar 0800 1111 neu gallwch gysylltu ar-lein. A chofiwch, pa bynnag ffordd y byddwch chi’n dewis cysylltu â nhw, chi sydd yn rheoli. Mae’n gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw os nad ydych am wneud hynny.