Cyffuriau ac Alcohol

Teimlo dan bwysau i yfed, smygu, smygu sigaréts electronig, cymryd cyffuriau? Dyma 10 ffordd o ddelio ag ef:

  1. Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae'n hawdd meddwl mai chi yw'r unig un sydd heb roi cynnig ar y rhain ond, mewn gwirionedd, nid yw'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn defnyddio sylweddau.
  2. Meddyliwch ble rydych chi'n sefyll ar faterion fel rhyw, cyffuriau ac alcohol. Mae gwybod eich meddwl eich hun yn ei gwneud yn haws i chi gadw'n driw i chi'ch hun.
  3. Paratowch eich hun. Meddyliwch am sut yr hoffech chi ymateb pan fydd rhywun yn cynnig diod neu gyffuriau i chi fel eich bod yn gwybod beth i'w ddweud.
  4. Ceisiwch ddeall pwy sy'n cynnig y ddiod a'r cyffuriau i chi a pham. Dylai ffrindiau ddeall os ydych chi'n dweud na, gall pobl nad ydynt yn eich adnabod yn dda ddisgwyl rhywbeth yn ôl.
  5. Dywedwch na yn gadarn ond yn eglur heb wneud ffws mawr amdano. Os byddant yn ceisio'ch perswadio, peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi newid eich meddwl.
  6. Cofiwch, er efallai na fyddant yn ei ddangos, bydd eich ffrindiau yn eich parchu mwy os ydych chi'n bendant ac yn glir ynghylch yr hyn yr ydych yn ei wneud a ddim eisiau ei wneud.
  7. Edrychwch o gwmpas. Fe welwch yn fuan nad chi yw'r unig un sy'n poeni am yr hyn y mae pobl eraill yn ei feddwl ohonoch chi. Ceisiwch ganolbwyntio ar eich barn chi eich hun - yn y pen draw, dyna'r cyfan sy'n bwysig.
  8. Ydych chi'n poeni bod pwysau ar eich ffrindiau? Peidiwch â'i gadw i chi'ch hun, siaradwch â nhw, neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
  9. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd bod yn chi o fewn eich grŵp, cymerwch gam yn ôl, a meddyliwch a yw'n amser dod o hyd i griw newydd, criw y gallwch ymlacio yn eu plith.
  10. Cyn rhoi cynnig ar unrhyw beth newydd mae'n gwneud synnwyr gwybod beth yw beth. Gallwch ddarganfod mwy am wahanol gyffuriau ar Cyffuriau A - Z – neu rhowch alwad i FRANK ar 0300 123 6600 unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut i ymdrin â materion yn ymwneud ag alcohol, sigaréts, sigaréts electronig a chyffuriau mae digon o wybodaeth ar y rhyngrwyd i'ch helpu, dyma rai:

FRANK - Gwybodaeth ddidwyll am gyffuriau.

Childline - Cyngor defnyddiol ar alcohol, ysmygu, cyffuriau gan gynnwys gwybodaeth am eich hawliau, y gyfraith, ymdopi â rhieni sy'n yfed gormod.