Sut allaf gael help os oes rhywbeth o'i le, neu os ydw i eisiau rhoi gwybod am rywbeth?
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod mewn perygl yr eiliad honno, yna dylech chi ffonio 999 bob amser ac esbonio beth sy'n digwydd a byddant yn eich helpu.
Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc sy’n:
- Teimlo’n anhapus am fywyd
- Gofidio am ffrind neu rywun arall
Mae angen i chi siarad â rhywun yr ydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.
Os hoffech chi gael cyngor a chymorth gan rywun sydd ddim yn eich adnabod chi a’ch sefyllfa ewch i wefan ChildLine neu fe allwch roi galwad am ddim iddynt ar 0800 1111.
Gallwch siarad á ChildLine am unrhyw beth. Nid yw’r un broblem yn rhy fawr neu rhy fach.
Pa ffordd bynnag y byddwch chi'n dewis cysylltu â nhw, chi fydd wrth y llyw. Mae'n gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw os nad ydych chi eisiau.
Byddant yn eich cefnogi. Eich arwain chi. Eich helpu i wneud penderfyniadau sy'n iawn i chi.
Gall eu hawgrymiadau a'u technegau, eu syniadau a'u hysbrydoliaeth eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth. A gallwch eu defnyddio yn eich amser eich hun, fel y mynnoch!
Mae gan wefan Childline gyngor ar:
Bwlio, cam-drin, diogelwch, y gyfraith, eich corff, eich teimladau, ffrindiau, y cartref a’r teulu, perthnasoedd, rhyw, gwaith ysgol a choleg a llawer, llawer mwy