Eiriolaeth i Blant sy'n derbyn gwasanaeth gan yr Adran Gwasanaethau Plant

Beth yw eiriolwr?

Mae eiriolwr ar gael i'r plant a'r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gwasanaeth gan Adran Gwasanaethau Plant yr Awdurdod Lleol. Mae Eiriolwr Annibynnol yn berson nad yw'n cael ei gyflogi gan Wasanaethau Plant yr Awdurdod Lleol a bydd yn sicrhau bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau i fod yn rhan o benderfyniadau sy'n effeithio ar eich bywyd.

Maen nhw ar eich ochr chi a byddant yn gwrando ar eich barn ac yn ei gymryd o ddifri, a gallant eich helpu i leisio'ch barn a gwneud synnwyr o'ch sefyllfa.

Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i ddarparu Eiriolwr Annibynnol ar gyfer unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n teimlo bod angen rhywun annibynnol arno i rannu ei farn.

Bydd yr Eiriolwr yn gweithio i chi yn unig ac mae ar eich ochr chi.

Er mwyn clywed barn pobl am eiriolaeth, edrychwch ar y fideo Beth yw Eiriolaeth?.

Pa gymorth gallaf ei ddisgwyl gan fy Eiriolwr?

  • Os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor
  • Os ydych chi'n teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando ar eich barn a hoffech rywun ar eich ochr chi
  • Os ydych chi'n anhapus â'r ffordd rydych chi'n derbyn gofal
  • Os ydych chi'n ddig neu'n gofidio am rywbeth sy'n digwydd i chi
  • Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi wedi cael eich trin yn deg
  • Os nad oes unrhyw un yn dweud wrthych beth sy'n digwydd am eich sefyllfa
  • Os nad ydych chi wedi bod yn rhan o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud amdanoch chi

Yr hyn y bydd eiriolwr yn ei wneud

  • Eich helpu i siarad drosoch eich hun neu siarad ar eich rhan os oes angen
  • Gwrando ar eich pryderon neu'ch gofidion a'ch helpu i weithredu arnynt
  • Bod yn agored ac yn onest gyda chi
  • Eich helpu i herio penderfyniadau
  • Eich helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd
  • Esbonio i oedolion sut rydych chi'n teimlo
  • Esbonio wrthych beth sy'n digwydd neu'r hyn y bwriedir iddo ddigwydd
  • Eich helpu i ddatrys problem os ydych chi'n ystyried gwneud cwyn, honni bod gwahaniaethu wedi digwydd neu os ydych am apelio

Efallai y bydd rhai pethau na ellir eu newid, ond bydd Eiriolwr yn sicrhau bod pawb yn gwybod sut rydych chi'n teimlo ac yn eich helpu i ddeall pam y gwnaed y penderfyniad.

Bydd popeth y bydd yr Eiriolwr yn ei drafod yn gyfrinachol, oni chredir eich bod mewn sefyllfa beryglus neu fygythiol i fywyd, neu'n debygol o fod yn berygl difrifol i eraill, neu pan fydd angen i ni drosglwyddo gwybodaeth yn ôl y gyfraith. Os bydd hyn yn digwydd efallai y bydd yn rhaid i ni rannu'r wybodaeth hon trwy gysylltiadau agos â'r Heddlu a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Eiriolaeth yn Seiliedig ar Fater a Chynnig Eiriolaeth Weithredol?

Cymhwysedd i Dderbyn Eiriolaeth ar Sail Mater

Pob plentyn a pherson ifanc sy'n derbyn gwasanaeth gan adrannau gwasanaethau plant (5 oed a throsodd).

Mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) yn wasanaeth eiriolaeth sy'n seiliedig ar faterion annibynnol. Rhaid i unrhyw atgyfeiriadau parhaus y mae angen eu gwneud i'r gwasanaeth amlinellu mater penodol y mae'r plentyn / person ifanc yn ceisio ei ddatrys. RHAID gwneud yr atgyfeiriad am eiriolaeth yn seiliedig ar faterion gyda chaniatâd y plentyn / person ifanc ac amlinellu'n gryno ffocws y cymorth eiriolaeth sydd ei angen.

Mae gan unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n adnabyddus i adrannau gwasanaeth plant, hawl i eiriolwr proffesiynol annibynnol drwy gydol y cyfnod y maen nhw'n ymwneud ag adrannau gwasanaeth plant. Dylid atgoffa plentyn neu berson ifanc o'r gwasanaeth eiriolaeth trwy gydol ei amser mewn gofal, o fewn gweithdrefnau amddiffyn plant, drwy gydol cynllun gofal a chymorth ac ar gamau trosiannol allweddol.

Cymhwysedd i Gynnig Eiriolaeth Weithredol

Unrhyw blentyn neu berson ifanc dros 5 oed sydd wedi dod yn adnabyddus i wasanaethau plant drwy'r drefn Derbyn Gofal neu weithdrefnau Amddiffyn Plant ers mis Gorffennaf 2017.

Mae'r cynnig gweithredol yn gyfarfod rhwng yr un sy'n darparu eiriolaeth a'r plentyn / person ifanc i drafod eu hawliau a'u hawl i'r gwasanaeth eiriolaeth; sut y gallai eiriolaeth eu helpu nawr neu yn y dyfodol a'r broses gwyno..

Efallai mai canlyniad y cyfarfod fydd y plentyn / person ifanc yn derbyn y gwasanaeth eiriolaeth am gymorth ar fater penodol a ganfuwyd neu'n gwrthod y gwasanaeth.

Os yw'r plentyn ifanc yn gwrthod, bydd yn cael gwybodaeth am y gwasanaeth i'w defnyddio yn y dyfodol os bydd angen. Bydd yr unigolyn sy'n atgyfeirio gyda chaniatâd y plentyn / person ifanc yn cael gwybod canlyniad y cyfarfod

Gwybodaeth bellach

I gael mwy o wybodaeth ar eiriolaeth yn ardal Gwent cysylltwch â NYAS:

Gwefan: www.nyas.net
Twitter: @NYASServices
Facebook: NYAS.yp
Llinell Gymorth: 0808 8081001