Y Prawf ASID Cyfreithiol (DoLs)

Yn 2014, rhoddwyd dyfarniad pwysig mewn achos cyfreithiol pwysig a benderfynwyd yn Llys Goruchaf y DU. P v Cyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer; P & Q v Cyngor Sir Surrey [2014] UKSC 19. Roedd yr achos yn disgrifio ac yn rhoi'r awgrym cliriaf o'r hyn sy'n gyfystyr â cholli rhyddid.

Disgrifiodd y dyfarniad yr hyn a elwir yn brawf asid y dylid ei ddefnyddio wrth benderfynu ar golli rhyddid:

Mae'r prawf asid yn datgan bod unigolyn yn cael ei amddifadu o'i ryddid os:

  1. Ydynt yn destun goruchwyliaeth a rheolaeth barhaus, ac
  2. Nad ydynt yn rhydd i adael

Wrth ateb y ddau gwestiwn, dylai staff ystyried a ydynt yn arfer rheolaeth gyflawn ac effeithiol dros ofal a symudiadau person a phenderfyniadau am eu gofal.

Nid oes rhaid i berson fod yn gofyn am adael na'n ymgeisio i adael cyn yr ystyrir nad yw'n rhydd i adael. Dylai staff gofal ofyn beth y byddent yn ei wneud OS yw'r person yn ceisio gadael neu'n gofyn i adael. Os dywedir y byddent yn atal y person, yna NID yw'r person yn RHYDD i adael o fewn ystyr y PRAWF ASID [Cyf.P v Cyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer; P & Q v Cyngor Sir Surrey [2014] UKSC 19]

Mae hyn yn golygu os nad oes gan rywun alluedd meddyliol i ganiatáu i fyw er enghraifft mewn cartref preswyl neu ward ysbyty ac os ydynt hefyd yn bodloni'r prawf asid fel y disgrifir uchod, yna efallai y bydd angen cais i awdurdodi DoLs.