Y Tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS)
Sefydlwyd tîm DoLS i gydlynu a rheoli ceisiadau atgyfeirio, asesiadau ac adolygiadau DoLS. Mae'r Tîm DoLS, sydd wedi'i leoli yn Ystâd Parc Mamheilad, yn gweithredu ar ran y Cyrff Goruchwylio (Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a 5 Awdurdod Lleol yn ardal Gwent, hy Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen).
Mae'r tîm yn cynnwys cydlynydd / rheolwr DoLS, aseswyr budd gorau a gweinyddwr DoLS. Mae'r tîm hefyd yn cael ei gefnogi gan gronfa o aseswyr budd pennaf sy'n gweithio i'r Awdurdodau Lleol neu'r Bwrdd Iechyd yn ardal Gwent. Mae'r aseswyr budd pennaf yn nyrsys hyfforddedig, therapyddion galwedigaethol neu weithwyr cymdeithasol sydd â phrofiad o weithio gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu.
Y tîm DoLS yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau neu geisiadau am awdurdodiad DoLS a gellir cysylltu â nhw rhwng 9:00am a 5:00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Dyma fanylion cyswllt y tîm:
Y Tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
Stad Parc Mamheilad
Tŷ Mamheilad
Ail Lawr
Ystafell 385
Pont-y-pŵl
Gwent
NP4 0YP
Rhif Ffôn 01495 745801
Rhif Ffacs Safehaven: 01495 745812
E-bost: dols.team@wales.nhs.uk