DoLS - Cwestiynau ac Atebion
Isod mae rhai cwestiynau ac atebion sy’n cynnig gwybodaeth ar Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
Pam y cyflwynwyd Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Deddf Galluedd Meddyliol 2005?
I ddiogelu pobl agored i niwed, cynnal eu hawliau, ac atal unrhyw achosion sy’n mynd yn groes i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Pryd ddaeth y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) i rym?
1 Ebrill 2009.
Pwy mae Trefniadau Diogelu DoL yn eu diogelu?
Oedolion agored i niwed, a allai golli'u rhyddid neu sydd eisoes wedi cael eu hamddifadu o'u rhyddid mewn cartref gofal neu ysbyty. Ers 2014 mae hyn wedi ymestyn i gynnwys byw mewn tai â chymorth.
Beth yw galluedd (gan gyfeirio at Ddeddf Galluedd Meddyliol (DGM) 2005)?
Y gallu i wneud penderfyniad am fater penodol ar yr adeg y mae angen gwneud y penderfyniad hwnnw.
Enwch bum egwyddor allweddol y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Rhaid tybio bod gan berson alluedd oni bai ei fod wedi'i brofi fel arall. Ni ddylid trin unigolyn fel rhywun nad yw'n gallu gwneud penderfyniad oni bai bod pob cam ymarferol i'w helpu i wneud hynny wedi cael ei ddilyn heb lwyddiant. Ni ddylid trin unigolyn fel rhywun nad yw'n gallu gwneud penderfyniad oherwydd ei fod ef/hi yn gwneud penderfyniad annoeth. Rhaid i weithred neu benderfyniad a wneir, o dan y Ddeddf hon ar gyfer neu ar ran person sydd heb allu cael ei wneud er ei les pennaf. Cyn i'r weithred gael ei gwneud, neu cyn mynd ati i wneud y penderfyniad, rhaid ystyried a ellir cyflawni'r diben hwnnw yn effeithiol mewn ffordd sy'n cyfyngu'n llai ar hawliau'r person a'i rhyddid i weithredu. (Cod Ymarfer DGM, Pennod 2).
Sut allwch chi brofi galluedd meddyliol person?
Trwy ddilyn prawf galluedd meddyliol 2 gam.
Beth yw amddifadu rhywun o’i rhyddid?
Mae’n derm a ddefnyddir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ynglŷn ag amgylchiadau pan amddifedir rhyddid person. Mae ei ystyr mewn ymarfer wedi'i ddiffinio drwy gyfraith achosion ’(Cod Ymarfer DoLS).
Gellir ystyried bod angen i rywun golli ei ryddid os nad oes ganddo'r gallu i ganiatáu ble i fyw a derbyn gofal a'i fod yn destun goruchwyliaeth a rheolaeth barhaus ac nad yw'n rhydd i adael o fewn ystyr y prawf asid a ddisgrifir yn P v Cyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer; P & Q v Cyngor Sir Surrey [2014] UKSC 19.
Pam mae angen i staff iechyd a gofal cymdeithasol gadw cofnodion cywir wrth wneud penderfyniadau ar ran person sydd heb y gallu i wneud hynny?
I ddangos bod y broses briodol wedi'i dilyn o dan DoLS DGM, i gyfiawnhau penderfyniadau a chamau gweithredu, ac i ddarparu amddiffyniad cyfreithiol i'r person agored i niwed dan sylw ac i'r rhai sy'n gweithredu ar ei ran ef neu hi.
Enwch y chwe gofyniad i fod yn gymwys ar gyfer Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
Y gofyniad o ran oedran, y gofyniad iechyd meddwl, y gofyniad galluedd meddyliol, y gofyniad pennaf les, y gofyniad cymhwyster, y gofyniad dim gwrthod.
Beth yw awdurdodiad DoLS?
Mae'r awdurdodiad yn rhoi caniatâd i'r cartref gofal neu'r ysbyty dan sylw amddifadu'r person perthnasol o'i ryddid er ei fudd pennaf.
Pwy all gwblhau asesiad DoLS?
Bydd o leiaf ddau weithiwr proffesiynol yn cymryd rhan. Aseswr Budd Pennaf a fydd naill ai'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig, nyrs, therapydd galwedigaethol, neu seicolegydd, sydd â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol, a meddyg a gymeradwyir dan Adran 12.
Pwy yw’r person perthnasol?
Y person perthnasol yw'r term a ddefnyddir yn y Ddeddf ar gyfer y person / claf / defnyddiwr gwasanaeth dan sylw sy'n cael ei amddifadu o'i ryddid.
Beth yw rôl cynrychiolydd y person perthnasol?
Rôl cynrychiolydd y person perthnasol yw cynnal cyswllt â'r person perthnasol, ac i gefnogi a chynrychioli'r person ynghylch materion Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Efallai y bydd gofyn iddynt hefyd gynorthwyo'r person perthnasol i apelio yn erbyn Amddifadu Rhyddid.
Pwy ddylech chi gysylltu â nhw ynghylch achos posibl o amddifadu o ryddid mewn cartref gofal neu ysbyty?
Y tîm DoLS.