Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
Mae sicrhau bod gweithwyr proffesiynol wedi eu hyfforddi i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr yn elfen allweddol o ran cyflawni nodau Strategaeth VAWDASV Gwent.
Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn amlinellu gofynion Llywodraeth Cymru ar hyfforddiant VAWDASV ar draws y gwasanaeth cyhoeddus a'r trydydd sector arbenigol.
Mae'r Is-grŵp Hyfforddiant yn goruchwylio'r FfHC yng Ngwent. O dan Fwrdd Partneriaeth VAWDASV Gwent, mae Is-grŵp Hyfforddi Gwent yn cynnig cymorth ac arweiniad strwythurol yn y rhanbarth, cynghori a threfnu cynlluniau a phrosesau hyfforddi mewn ymateb i ofynion y FfHC. Mae'r holl gamau a gymerir gan y Grŵp yn cael eu hadrodd yn ôl a'u cyfarwyddo gan Fwrdd Partneriaeth VAWDASV Gwent.
Grŵp | Cynulleidfa Dan Sylw | Diben |
---|---|---|
Grŵp 1 |
Pob Gweithiwr Proffesiynol yn y Maes Gwasanaeth Cyhoeddus |
Cael dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o'r hyn y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ei olygu, sut i'w adnabod a pha gymorth sydd ar gael |
Grŵp 2 |
Gweithwyr proffesiynol sy'n debygol o fod mewn swyddi lle mae VAWDASV yn fater i'w grŵp cleientiaid. Byddai hyn yn cynnwys pobl sy'n trin neu'n gweithio gyda rhywun o ganlyniad i drais a cham-drin |
Gall staff mewn rolau priodol adnabod arwyddion cam-drin a bod â'r gallu i siarad â'r person hwnnw'n sensitif (os yw'n briodol) a chynnig opsiynau a gwasanaethau iddynt yn gyflym ac yn effeithlon. ("Gofyn a Gweithredu") |
Grŵp 3 |
Unigolion mewn rolau sy'n gofyn iddynt wneud mwy na "Gofyn a Gweithredu" a'r rhai sy'n cyflawni rôl "Hyrwyddwyr" |
Staff Gwasanaeth Cyhoeddus sy'n gallu cefnogi cydweithwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau mewn perthynas â materion VAWDASV a gweithredu fel hyrwyddwr yn eu sefydliad |
Grŵp 4 |
Gweithwyr proffesiynol y mae eu grŵp cleientiaid yn rhai y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio'n benodol arnynt |
Bydd gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r rhai y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt, yn broffesiynol, yn arbenigwyr ac yn meddu ar gymwysterau priodol |
Grŵp 5 |
Rheolwyr gwasanaeth sy'n gweithio yn y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol |
Gwella safonau proffesiynol a chefnogi cyflwyno ac arwain gwasanaethau sydd o'r ansawdd uchaf |
Grŵp 6 |
Arweinwyr Strategol sydd â chyfrifoldeb i feithrin diwylliant a seilwaith lle mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu cydnabod fel materion sy'n effeithio ar y gweithlu, y grŵp cleientiaid a ffrindiau a theulu |
Cyfres o ffilmiau byrion yw'r Gyfres Atgyfnerthu Arweinyddiaeth, a phob un yn fater pwysig sy'n gysylltiedig â VAWDASV. Mae'r ffilmiau'n cynnig darnau byr o wybodaeth y gellir eu defnyddio i lunio cyfeiriad strategol, rhannu mewn timau a gwella gwybodaeth |
Mae’r FfHC yn cynnwys chwe grŵp. Bydd pob proffesiwn o fewn y Gwasanaeth Cyhoeddus yn syrthio i un o’r grwpiau hyn. Mae manylion yr hyfforddiant wedi ei rhestru nesaf at bob grŵp.
Grŵp 1
Hyfforddiant: Mae hyfforddiantGrŵp 1 ar gael mewn dwy ffordd;
- E-ddysgu - sesiwn hyfforddi 45 munud ar-lein y gellir cael mynediad iddo drwy borth dysgu’r GIG. Mae ar gael fel cyswllt ar fewnrwyd bob awdurdod perthnasol ynghyd â chyfarwyddiadau ynghylch sut i’w gyrchu.
- Hyfforddiant wyneb yn wyneb - sesiynau 2-awr (tua.) hefyd ar gael a gellir eu cyrchu trwy gyfleoedd hyfforddi mewnol o fewn eich sefydliad.
Grŵp 2
Hyfforddiant: Gellir cael mynediad i hyfforddiant Grŵp 2 a’i archebu drwy raglenni hyfforddi sefydliadau mewnol ac maent yn cael eu darparu ar ffurf sesiynau hanner diwrnod mewn ystafelloedd dosbarth.
Grŵp 3
Hyfforddiant: Gellir cael mynediad i hyfforddiant Grŵp 3 a’i archebu drwy rhaglenni hyfforddi sefydliadau mewnol ac maent yn cael eu darparu ar ffurf sesiynau diwrnod llawn mewn ystafelloedd dosbarth
Grŵp 4
Hyfforddiant: Mae hyfforddiant Grŵp 4 ar gael drwy unrhyw rhai o’r darparwyr hyn;
Grŵp 5
Hyfforddiant – Mae hyfforddiant Grŵp 5 ar gael drwy’r darparwr canlynol;
Grŵp 6
Hyfforddiant - Mae hyfforddiant Grŵp 6 yn cael ei ddarparu’n rhannol drwy gyfres o fideos YouTube y gellir eu gwylio ar www.youtube.com
Maes Llafur Pwnc Arbenigol
Mae'r Fframwaith hefyd yn cynnwys maes llafur pwnc arbenigol a fydd yn sicrhau bod unrhyw hyfforddiant, a gyflawnir gan unrhyw broffesiwn, yn bodloni canlyniadau dysgu penodol, gellir ei asesu yn erbyn meini prawf penodol ac mi fydd yn gyson â hyfforddiant arall a ddarperir ledled Cymru.
Wrth i adnoddau gael eu datblygu i gefnogi pob Grŵp hyfforddiant, bydd y rhain yn cael eu llwytho ar dudalen berthnasol y Grŵp.
Hyfforddian: TMae hyfforddiant yn y rhanbarth a'r mapio gydag unedau arbenigol yn parhau. Rydym yn gallu darparu ystod eang o hyfforddiant ar draws maes VAWDASV sy'n agored ac yn rhad ac am ddim i unrhyw weithiwr proffesiynol yn y sector gwirfoddol neu statudol yng Ngwent.
Dyma’r sesiynau;
- Deall Cam-drin Domestig, 1 diwrnod
- DASH/MARAC, ½ diwrnod
- Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol, 1 diwrnod
- Effeithiau ar Blant, 1 diwrnod
- Trais ar Sail Anrhydedd a Phriodas dan Orfod, 1 diwrnod
- Deall Troseddwyr, 1 diwrnod
- Rheolaeth Gymhellol, 1 diwrnod
- Gweithio gyda Dioddefwyr Sy’n Ddynion
A fyddech cystal â mynd i dudalen Cyrsiau i gadw lle yn un o’r sesiynau hyn.
https://livefearfree.gov.wales/guidance-for-professionals/national-training-framework/?lang=en