Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Mae cyfathrebu ac ymgysylltu yn elfen allweddol o ran cyflawni amcanion Strategaeth VAWDASV Gwent. Gweler yma am fanylion y gwaith Cyfathrebu ac Ymgysylltu yng Ngwent, a'r tudalennau Cymryd Rhan ar sut a pham y gall pobl sy'n cael eu heffeithio gan VAWDASV ymwneud â helpu i lywio gwasanaethau yng Ngwent.

Is-grŵp Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Mae'r grŵp Ymgysylltu a Chyfathrebu yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn goruchwylio ymgysylltu a chyfathrebu ar draws Blaenoriaethau Strategol, Strategaeth VAWDASV Gwent. Mae hyn yn cynnwys dylunio a lledaenu adnoddau, codi ymwybyddiaeth, cefnogi a hyrwyddo ymgyrchoedd, a gweithgareddau sy'n cynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan VAWDASV o bob rhan o'r rhanbarth, ynghyd â hwyluso, a chefnogi digwyddiadau ymgysylltu drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac aelodau'r gymuned.

I gefnogi'r gwaith hwn, mae'r Grŵp yn cynnwys aelodau sydd â phrofiad a gwybodaeth o gyfathrebu ac ymgysylltu o ardaloedd ar draws Gwent gan gynnwys cynrychiolaeth o Awdurdodau Lleol, Heddlu Gwent, CHaTh Gwent, Tai a'r sector Arbenigol. Mae gwaith y Grŵp yn cyd-fynd yn agos â'r grŵp ymgysylltu a chyfathrebu ehangach ar ddiogelu, gyda rhai aelodau a rennir ac eitemau sefydlog ar agendau i sicrhau bod pob grŵp yn ymwybodol o gynnydd a chamau gweithredu diweddar ac i sicrhau ymagwedd a neges sy'n gyson.

Cefnogir hyn gan Ddogfen Canllaw Cynnwys ac Ymgysylltu VAWDASV Gwent sy'n amlygu ystyriaethau allweddol ac arfer gorau

Cylchlythyrau VAWDASV Gwent

Mae'r Is-grŵp Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn cynhyrchu cylchlythyrau chwarterol sy'n amlygu gwaith y rhanbarth ac yn rhannu gwybodaeth ac ymchwil sy'n berthnasol i'r sector. Mae copïau o gylchlythyrau diweddar ar gael yma.

Ymgyrchoedd VAWDASV

Mae codi ymwybyddiaeth o bob math o VAWDASV a sut y gall pobl gael mynediad at gymorth yn elfen allweddol o Strategaeth VAWDASV Gwent. Mae'r Rhanbarth yn cefnogi ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru ynghyd ag adnoddau a gweithgareddau lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru ar gael ar wefan Byw Heb Ofn.

Gellir dod o hyd i weithgareddau lleol yma.