Addysg

Mae mabwysiadu ymagwedd addysg gyfan at VAWDASV yn elfen allweddol i gynyddu ymwybyddiaeth, darparu cymorth a chreu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddeall pwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach. Nodwyd bod ymagwedd addysg gyfan sy'n cynnwys addysg ataliol drwy bob rhan o fywyd ysgol a choleg, sy'n cynnwys y gymuned, yn bwysig o ran gallu addysgu addysg ataliol.

Mae Cymorth i Fenywod Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw arfer da ar Ymagwedd Addysg Gyfan i sicrhau bod ysgolion a chyrff addysgol wedi'u harfogi ac yn cael eu hystyried yn eu hymateb i VAWDASV ac atal, amddiffyn a chefnogi eu disgyblion a'u staff.

Mae Grŵp Ymagwedd Addysg Gyfan Gwent yn rhan o Fwrdd Partneriaeth VAWDASV i ddatblygu ac ymgorffori canllawiau ar draws y rhanbarth. Mae'r grŵp yn cyfarfod i adolygu ac ystyried cyngor a chefnogaeth effeithiol i sefydliadau addysgol ac i ddarparu cyfathrebu clir ar Ganllawiau Llywodraeth Cymru a disgwyliadau Bwrdd Partneriaeth VAWDASV Gwent. Mae'r Grŵp Ymagwedd Addysg Gyfan yn cynnwys partneriaid allweddol sy'n gweithio yn y maes Addysg, yr Heddlu a gwasanaethau cymorth arbenigol. Mae gweithio gydag Ysgolion Arloesol a deall sut y bydd y cwricwlwm Iechyd a Lles newydd yn cefnogi gwaith o amgylch y Flaenoriaeth Strategol hon, yn gwbl hanfodol.

Mae 9 Egwyddor Allweddol dan Ganllawiau Ymagwedd Addysg Gyfan Llywodraeth Cymru.

Egwyddorion ac ymarfer: 9 elfen allweddol ymagwedd addysg gyfan

Mae'r canllawiau yn nodi'r 9 elfen allweddol ganlynol ac yn rhoi enghreifftiau o arfer gorau o ran ymwreiddio pob un:

  1. Mae plant a phobl ifanc yn dysgu am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  2. Mae staff yn dysgu am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  3. Mae rhieni, darparwyr gofal a'r teulu yn dysgu am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  4. Mae systemau monitro a gwerthuso ar waith i fesur effaith y gwaith hwn.
  5. Mae mesurau ar waith i gefnogi pobl sy'n wynebu mathau o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  6. Mae plant a phobl ifanc, staff a rhieni / darparwyr gofal yn chwarae rhan i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  7. Cymryd camau i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y gymuned ehangach.
  8. Gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr lleol perthnasol.
  9. Ymwreiddio rhaglen atal gynhwysfawr

Canllawiau Drafft i Ysgolion a Sefydliadau Addysg Gwent mewn ymgynghoriad â'r Grŵp Ymagwedd Addysg Gyfan. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, byddant yn cael eu llwytho i'r ardal hon.