Cyfleodd Hyfforddi Ynghylch y Ddeddf Galluedd Meddyliol

Dylai pob ystyriaeth a phenderfyniad diogelu ar gyfer pobl 16+ oed ystyried gofynion cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol, ochr yn ochr â darnau eraill perthnasol o ddeddfwriaeth. Dylai ymarferwyr fod ag ymwybyddiaeth briodol o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r cod ymarfer cysylltiedig i gydymffurfio â'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth. 

Dylai ymarferwyr a rheolwyr ystyried pa mor hyderus ydyn nhw neu staff o ran y Ddeddf Galluedd Meddyliol, gyda'r bwriad o fanteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu rhanbarthol i gynyddu gwybodaeth ac amgyffred ynghylch y Ddeddf Galluedd Meddyliol. 

Mae hyn yn cynnwys (gweler manylion cyswllt Awdurdodau Lleol/Iechyd isod i ymholi ynghylch yr rhain neu i gael mynediad atyn nhw):

  • Ymwybyddiaeth o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol
  • Galluedd Meddyliol, Sut i'w Asesu

Ar gyfer hyfforddiant dilynol sy’n archwilio hunanesgeulustod yn benodol (galluedd meddyliol/oedolion mewn perygl) a cham-drin domestig/rheoli drwy orfodaeth (galluedd meddyliol/oedolion mewn perygl), ewch i dudalen Hyfforddiant Diogelu Gwent i weld pa sesiynau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Dysgu hunangyfeiriedig sydd ar gael:

Dewch yn gyfarwydd â Chod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol – Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol - GOV.UK (www.gov.uk)

Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid y Ddeddf Galluedd Meddyliol: canllawiau a ffurflenni amddifadu o ryddid – Deddf Galluedd Meddyliol: canllawiau a ffurflenni amddifadu o ryddid | LLYW.CYMRU  

'Shedinars'

Isod mae cyfres o weminarau ('Shedinars') sy'n cyflwyno elfennau allweddol o'r gyfraith galluedd meddyliol.

Yn gyffredinol, mae pob gweminar tua 20 munud o hyd.

Cyflwyniadau i Elfennau Allweddol (Cafeat diflas ond angenrheidiol: nid yw'r un o'r rhain yn gyngor cyfreithiol)

Manylion cyswllt Awdurdodau Lleol/Iechyd i ymholi ynghylch cyrsiau’r Ddeddf Galluedd Meddyliol sy'n cael eu cynnal yng ngwent:

Iechyd (ABUHB): 

Tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) Gwent /Tîm Deddf Galluedd Meddyliol -

Rhif ffôn: 01495 745801

E-bost: dols.team@wales.nhs.uk 

Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau wedi'u comisiynu: 

Sarah Livingstone - Sarah.Livingstone@torfaen.gov.uk

Hyfforddiant Deddf Galluedd Meddyliol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

E-bost - WDblaenaugwent@caerphilly.gov.uk

Hyfforddiant Deddf Galluedd Meddyliol Cyngor Sir Fynwy

E-bost -monwdt@monmouthshire.gov.uk 

Hyfforddiant Deddf Galluedd Meddyliol Cyngor Dinas Casnewydd

E-bost -SocialCareWorkforceDevelopment@newport.gov.uk 

Hyfforddiant Deddf Galluedd Meddyliol Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen

E-bost - odteam@torfaen.gov.uk