Cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu Iechyd Meddwl

Melo Cymru

I weld y manylion ar wefan Melo am hyfforddiant sy'n cael ei argymell, sydd wedi'i gomisiynu'n rhanbarthol, sydd ar gael mewn perthynas â hunanladdiad a hunan-niwed, cliciwch yma.

Cyrsiau Iechyd Meddwl a Lles - Melo Cymru 

Melo Cymru banner

Modiwl Hyfforddiant Cyffredinol - Ymwybyddiaeth o Hynanladdiad

Mae modiwl hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad newydd ar gael i bob aelod o staff, o weithwyr rhengflaen sy'n ymwneud â’r cyhoedd i ystafell y bwrdd. Mae'r modiwl yn darparu dealltwriaeth o atal hunanladdiad ac yn darparu gwybodaeth gymorth. 

Datblygwyd y modiwl gan Raglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, Gweithrediaeth y GIG. 

I gael mynediad ar ESR:

Gellir dod o hyd i'r modiwl yng nghatalog y cwrs neu drwy chwilio 'suicide awareness'.

I gael mynediad ar Learning@Wales:

Ar ôl mewngofnodi, chwiliwch am “Ymwybyddiaeth o hunanladdiad” yn y swyddogaeth chwilio. Cysylltwch â'ch tîm dysgu a datblygu i gael allwedd cofrestru'r sefydliad.

I gael rhadgor o wybodaeth, cysylltwch â thîm SSHP yn sshp.cymru@wales.nhs.uk.

Hwb Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru 

Mae’r llwyfan hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n chwilio am gyfleoedd hyfforddi a datblygu a fydd yn gallu eu helpu nhw, eu cymunedau neu eu gweithluoedd i gynyddu eu hymwybyddiaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau mewn cysylltiad â rheoli ac atal hunanladdiad a hunan-niwed.

SSHB Cymru / HWB