Hyfforddiant VAWDASV

Mae'n ofynnol i holl staff yr Awdurdod Lleol ledled y rhanbarth (a Chymru) gwblhau'r modiwl e-ddysgu ar-lein, Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (grŵp 1 Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol). Mae hwn yn fodiwl wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei gwblhau drwy wefan Dysgu@Cymru. Mae'r manylion mewngofnodi ar gyfer y wefan hon yn cael eu darparu gan eich timau datblygu'r gweithlu fel rhan o'ch gofynion dysgu gorfodol wrth sefydlu.  Lle nad yw gwirfoddolwyr neu staff nad ydyn nhw'n defnyddio cyfrifiadur (e.e. gweithwyr lloches) wedi'u sefydlu ar system Dysgu@Cymru, mae modd mewngofnodi drwy'r opsiwn mynediad i ymwelwyr. 

Tudalen E-Ddysgu

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn bwnc eang ac i gynorthwyo eich dysgu chi, mae gennym ni ystod eang o gyrsiau hyfforddi ar gael yn y rhanbarth. Mae ein darpariaeth hyfforddi lawn ar gael ar ein tudalen Tickettailor, lle gallwch weld yr holl gyrsiau a chadw lle yn uniongyrchol.

Prynu tocynnau ar gyfer VAWDASV Gwent (tickettailor.com)