Diogelu plant mewn ysgolion a lleoliadau addysg
Mae pawb yn y gwasanaethau addysg yn rhannu amcan i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel drwy gyfrannu at:
- greu a chynnal amgylchedd dysgu diogel i blant a phobl ifanc
- canfod yn union ble mae pryderon ynghylch lles plant a chymryd camau i fynd i'r afael â hwy, lle bo'n briodol, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill
- datblygu dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a gwydnwch plant drwy'r cwricwlwm
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw ym mis Ionawr 2015 o'r enw 'Cadw Dysgwyr yn Ddiogel' sy'n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Diben y canllaw hwn yw helpu pob darparwr addysg i sicrhau bod ganddo systemau effeithiol ar waith i helpu i gyflawni'r amcanion hynny. O dan Adran 175 Deddf Addysg 2002 rhaid i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir a phob sefydliad Addysg Bellach a pherchnogion ysgolion annibynnol roi sylw i'r canllaw hwn. Mae'n nodi'r cyfrifoldebau a'r trefniadau ar gyfer arfer eu swyddogaethau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hefyd yn berthnasol i asiantaethau cyflenwi sy'n cyflenwi staff i'r sector addysg, contractwyr sy'n gweithio mewn sefydliadau addysg sy'n gyfrifol am bobl ifanc dan 18 oed, yn ogystal â'r rheini sy'n darparu addysg a hyfforddiant i'r rhai dan 18 oed.
Mae gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru Swyddog Arweiniol ar gyfer Diogelu mewn Addysg, a'i rôl yw cefnogi a monitro arferion diogelu ar draws ysgolion, lleoliadau / gwasanaethau addysg ym mhob ardal.
Dylid rhoi enw a manylion cyswllt y swyddog perthnasol yn y Polisi Diogelu ac Amddiffyn Plant ar gyfer pob ysgol ac ar wefan yr Awdurdod Lleol perthnasol.
Cliciwch yma i ddarllen Cadw Dysgwyr yn Ddiogel - Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol dan Ddeddf Addysg 2002
Cliciwch yma i weld Deddf Addysg 2002
Rheoli Pryderon Proffesiynol mewn Lleoliad Addysg
Mae'n hanfodol delio ag unrhyw honiad o gam-drin sy’n codi yn erbyn athro neu aelod arall o staff neu wirfoddolwr mewn lleoliad addysg, a hynny mewn ffordd deg, cyflym a chyson ac mewn ffordd sy'n effeithiol o ran amddiffyn y plentyn, ac ar yr un pryd, sy'n cefnogi'r person sy'n destun yr honiad. Dylid rhoi blaenoriaeth amlwg i ddatrys cyhuddiadau o gam-drin yn gyflym a hynny er budd pawb dan sylw.
Mae hwn yn ganllaw statudol gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru ar drin honiadau o gam-drin yn erbyn athrawon a staff eraill. Diogelu plant mewn addysg.
Cliciwch yma i weld Diogelu plant mewn addysg: trin honiadau o gam-drin yn erbyn athrawon a staff eraill - Canllaw i awdurdodau lleol, penaethiaid, staff ysgol a pherchnogion ysgolion annibynnol.