Cadw plant yn ddiogel ar-lein

Cadw'n ddiogel arlein 

Gwybodaeth am ganllawiau, adnoddau ac hyfforddiant sydd ar gael am amrywiaeth o broblemau seibergadernid a diogelwch ar-lein, i gefnogi plant, teuluoedd ac ysgolion i gadw'n ddiogel ar-lein.

Hwb

Mae Hwb yn gweithredu fel ‘unig blatfform’ ar gyfer cyngor a gwybodaeth am greu cadernid digidol ac amrywiaeth o broblemau a phryderon ar-lein, wedi'i greu er mwyn cefnogi plant, pobl ifanc ac ysgolion.

Cadw'n ddiogel ar-lein - Hwb (gov.wales)

  • Mae Hwb yn cynnwys manylion ‘Partneriaid Dibynadwy’ a dolenni i amrywiaeth eang o wefannau, adnoddau a gwybodaeth.

Sefydliadau a phartneriaid dibynadwy - Hwb (gov.wales)

  • Mae Hwb yn cynnwys mynediad at sawl modiwl hyfforddi.

Modiwlau hyfforddi - Hwb (gov.wales)

CEOP – Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein

CEOP yw un o awdurdodau'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac yn mynd ati i fynd ar ôl troseddwyr rhyw â phlant, a'u herlyn nhw. Os oes pryderon gennych chi am gamdriniaeth ar-lein neu'r ffordd mae rhywun yn cyfathrebu ar-lein, mae gwefan CEOP yn cynnwys manylion am sut gallwch chi rhoi gwybod am gamdriniaeth ar-lein neu bryderon am gyfathrebu ar-lein. 

Canolfan Ddiogelwch CEOP

Common Sense Media

Mae Common Sense Media yn darparu adolygiadau annibynnol, addasrwydd oedran a gwybodaeth arall am bob math o gyfryngau.

Common Sense Media: Age-Based Media Reviews for Families | Common Sense Media

Tarian

Tarian ydy'r Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, sy'n cynnwys swyddogion yr heddlu ac arbennigwyr eraill o heddluoedd Gwent, De Cymru a Dyfed-Powys.

Mae gwahanol adrannau o fewn Tarian, yn amrywio o ymchwilwyr twyll a seiberdroseddu i arbennigwyr adennill asedau ac arbennigwyr cudd-wybodaeth, sydd wedi ymrwymo i chwalu a tharfu ar Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol Difrifol ledled De Cymru.

Childnet

Mae Childnet wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwaith sy'n gysylltiedig â'r adnoddau sydd ar gael ar Hwb, yn ogystal â Project deSHAME, sy'n ceisio taclo aflonyddu rhywiol ar-lein gan gyfoedion trwy rymuso cymunedau lleol i weithio gyda'i gilydd i gynyddu adrodd am achosion o aflonyddu ymhlith pobl ifanc. Mae adnoddau ar gael yn y Gymraeg. 

Project deSHAME | Childnet

Childline

Mae ‘Childline’ yn darparu amrywiaeth o adnoddau diogelwch ar-lein a ffonau symudol, yn ogystal â manylion eu llinell gymorth 24 awr, lle mae plant yn gallu siarad â rhywun unrhyw bryd am unrhyw bryder.

Cysylltu â Childline yn Gymraeg | Childline