Gwneud atgyfeiriadau diogelu i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Os byddwch yn diswyddo neu'n symud person o weithgarwch a reoleiddir (neu mi oeddech chi'n ystyried gwneud hynny cyn iddynt adael) oherwydd eu bod wedi niweidio neu achosi risg o niwed i blentyn neu oedolyn agored i niwed, yna mae gennych ddyletswydd GYFREITHIOL i gyfeirio'r unigolyn hwnnw i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Rôl y DBS yw gwneud penderfyniadau ynghylch gwahardd pobl sy'n cael eu hatgyfeirio ato (fel arfer yn dilyn proses disgyblu gan gyflogwr), a gall arwain o bosib at wahardd yr unigolyn hwnnw rhag gweithio neu wirfoddoli gyda phlant a / neu oedolion agored i niwed. Mae'r DBS yn defnyddio proses deg, drylwyr a chyson sy'n sicrhau bod y penderfyniad sy’n cael ei wneud yn gymesur ac yn briodol i'r risg y mae'r unigolyn yn ei beri i blant neu oedolion agored i niwed.

Ar 1 Rhagfyr 2012, unodd yr Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA) a'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) i ffurfio sefydliad newydd, sef y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Erys y ddyletswydd gyfreithiol i wneud atgyfeiriadau, ond erbyn hyn dylai atgyfeiriadau gael eu cyfeirio at y DBS.

Mae gwefan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau i'ch helpu i ystyried neu wneud atgyfeiriad. Mae hyn yn cynnwys Ffurflen Atgyfeirio, Canllawiau Atgyfeirio, Cwestiynau Cyffredin a chyfres o Ffeithlenni.

Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Gymorth y DBS ar 01325 953795 i gael gwybodaeth neu gyngor ynghylch gwneud atgyfeiriad.