Llwybr Atgyfeirio Cam-drin Domestig

Mae cam-drin domestig yn fater cymhleth y mae angen i weithwyr proffesiynol ei drin yn sensitif ar draws sectorau. Fodd bynnag, trwy gydweithio, gall gweithwyr proffesiynol yn y sectorau statudol a gwirfoddol ddarparu'r ymateb mwyaf effeithiol i'r sawl wy'n dioddef cam-drin domestig.

Gall gwasanaethau generig weithredu fel porth i bobl gael mynediad at gymorth a chefnogaeth arbenigol. Gall gweithwyr proffesiynol alluogi datgelu trwy wneud ymholiadau call a sensitif (‘Gofyn a Gweithredu’). Cliciwch am fwy o wybodaeth am hyfforddiant Gofyn a Gweithredu (tudalen generig NTF / dolen fewnol)

Ymateb i ddatgeliadau

Pan fydd rhywun yn datgelu cam-drin domestig, mae'n bwysig bod gweithwyr proffesiynol yn ymateb yn sensitif, gan gynnwys sicrhau bod y person yn teimlo ei fod yn cael ei gredu.

Os yw'n sefyllfa frys ffoniwch 999.

Os oes pryderon ynglŷn â diogelu, lle bo hynny'n bosibl, dylai gweithwyr proffesiynol geisio trafod y rhain gyda'r unigolyn. Os bydd pryderon yn parhau dylid dilyn y broses oedolion mewn perygl / plentyn mewn perygl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) - cliciwch am fanylion atgyfeirio diogelu Gwent (dolen fewnol)

Ochr yn ochr ag ystyried diogelu, dylai gweithwyr proffesiynol gyfeirio pobl at asiantaethau sy'n cynnig cymorth arbenigol i ddioddefwyr cam-drin domestig, naill ai drwy'r llinell gymorth Byw Heb Ofn neu sefydliad arbenigol lleol - cliciwch am fanylion y cymorth a'r gefnogaeth arbenigol sydd ar gael.

Gall gweithwyr arbenigol cam-drin domestig ddarparu cefnogaeth, trafod opsiynau'r person a chwblhau asesiad risg (gweler isod) a datblygu cynllun diogelwch (gweler isod).

Gall gweithwyr proffesiynol sydd â phryderon am rywun gael gafael ar gymorth a gwybodaeth gan y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0800 80 10 800

  • Llwybr/siart llif atgyfeirio Gwent – lawr lwytho’r PDF

Asesiad Risg DASH

Mae asesu risg pawb sy'n datgelu eu bod yn dioddef cam-drin domestig ar hyn o bryd yn cynorthwyo'r cam nesaf, gan helpu i bennu lefel y risg y mae'r unigolyn yn agored iddi.

Mae DASH (Cam-drin domestig, Dilyn a thrais ar sail anrhydedd) yn arf cyffredinol i asesu risg, sy’n cynnig dealltwriaeth ar y cyd o’r risgiau ar draws asiantaethau. Mae DASH wedi’i seilio ar dystiolaeth ac mae’n cynnal ymatebion mwy effeithiol gan yr asiantaethau.

Mae proses DASH yn helpu asiantaethau cymorth i ganfod os yw achos yn risg uchel ac a ddylid ei atgyfeirio at MARAC (gweler isod).

Nid yw'n ddoeth i staff sydd heb eu hyfforddi gwblhau asesiad risg, ond mae'n helpu os yw'r holl staff yn ymwybodol o arwyddocâd DASH. Wedi'i wneud yn dda, mae DASH yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r risgiau posibl. Os methir rhywbeth, gall arwain at ymateb annigonol (anniogel).

MARAC

Dylid cyfeirio achosion yr asesir eu bod yn risg uchel i MARAC (Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaeth) a'r gwasanaeth IDVA (gweler isod).

Cynhelir cyfarfodydd MARAC ym mhob ardal awdurdod lleol yng Ngwent bob pythefnos. Heddlu Gwent sy'n cydlynu cyfarfodydd MARAC. Mewn cyfarfodydd MARAC trafodir achosion risg uchel (y rhai sydd mewn perygl difrifol o niwed neu farwolaeth) ac mae asiantaethau'n rhannu eu gwybodaeth. Mae'r IDVA yn cynrychioli barn y dioddefwyr. Yna caiff cynllun gweithredu/diogelu amlasiantaeth ei ddatblygu a'i roi ar waith i ddiogelu'r dioddefwr.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys atgyfeirio at MARAC ar gael isod:

Protocol MARAC Gwent

Ffurflen atgyfeirio MARAC Gwent

Ffurflen rhannu gwybodaeth heb ganiatâd

Canllawiau a chwblhau MARAC Gwent

Ymgynghorydd Annibynnol ar Gam-drin Domestig (IDVA)

Mae Ymgynghorwyr Annibynnol ar Gam-drin Domestig yn gweithio gyda dioddefwyr sydd mewn perygl mawr o niwed gan bartner, cynbartner neu aelod o'r teulu. Yng Ngwent mae gwasanaeth IDVA rhanbarthol sy'n ffurfio rhan o fframwaith amlasiantaeth sy'n gysylltiedig â phroses y Gynhadledd Asesu Risg Amlasiantaeth (MARAC).

Mae Ymgynghorwyr Annibynnol ar Gam-drin Domestig yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt i'r dioddefwr, fel arfer yn gweithio gyda nhw o adeg yr argyfwng, gan helpu i weithredu camau gan MARAC, darparu cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o faterion, gan gynnwys mynd gyda chleientiaid i'r llys.

Gwasanaeth Ymgynghorwyr Annibynnol ar Gam-drin Domestig yng Ngwent: Mae manylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau Ymgynghorwyr Annibynnol ar Gam-drin Domestig yng Ngwent wedi eu cynnwys yng Nghyfeiriadur Gwasanaethau VAWDASV – lawr lwytho’r PDF

Cynllunio Diogelwch

Bydd gweithwyr sy'n arbenigo mewn cam-drin domestig yn cynorthwyo pobl i ddatblygu cynllun diogelwch unigol. Maent yn cynorthwyo dioddefwyr i ystyried sut y gallant gymryd camau mewn ffordd ddiogel, gan edrych ar ba mor agored i niwed y gallant fod a sut y gallant gynyddu eu diogelwch (a diogelwch eu plant).

Mae cynlluniau diogelwch wedi'u teilwra i amgylchiadau unigolyn; maent yn edrych yn fwy eang na diogelwch corfforol yn unig, ac yn ystyried diogelwch yn y tymor byr a thymor hir.