Rhwydweithiau Diogelu Lleol

Cyfarfodydd Rhwydweithiau Diogelu Lleol

Cynhelir y cyfarfodydd hyn bob deufis. Arweinydd diogelu pob ardal awdurdod lleol sydd yn gadeiryddion arnynt. Diben y cyfarfodydd hyn yw dwyn ynghyd yr arweinwyr a'r rheolwyr diogelu sy'n gyfrifol am ddiogelu o bob asiantaeth i rannu gwybodaeth a chadw mewn cysylltiad ynghylch unrhyw arfer da, prosiectau arloesol neu bryderon am waith sy'n ymwneud â diogelu. Gofynnir i reolwyr sicrhau bod unrhyw newyddion neu wybodaeth a rennir yn cael ei dwyn yn ôl i'w sefydliad eu hunain i'w rhannu.

Fforymau Ymarferwyr y Rhwydweithiau Diogelu Lleol – (LSNPFs)

Digwyddiadau hanner diwrnod yw'r rhain, a gynhelir bob chwe mis fel arfer ym mis Mai a mis Tachwedd mewn lleoliad sy'n gyfleus i bob ardal awdurdod lleol. Pwrpas y digwyddiadau yw caniatáu i ymarferwyr a gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am yr ardal leol honno gael cyfle i rwydweithio â chydweithwyr, a derbyn gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â diogelu. Bwriedir i'r digwyddiadau gynnwys agendâu plant, oedolion a Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ac fel arfer mae yna thema ganolog. Mae'r wybodaeth a rennir ar ffurf cyflwyniadau a sesiynau gweithdy sy'n caniatáu i nifer o asiantaethau rhannu llawer o wybodaeth mewn un digwyddiad. Rhoddir cyhoeddusrwydd i'r digwyddiadau trwy asiantaethau unigol a hefyd ar y wefan diogelu.

Cliciwch yma i weld Adroddiad Trosolwg Fforymau Ymarferwyr y Rhwydwaith Diogelu Lleol Mai 2017 - Tachwedd 2018.

Cliciwch yma am fanylion Fforwm Ymarferwyr LSN Mai 2022