Grŵp Dysgu a Datblygu

Mae'r grŵp hwn yn gyfrifol am y rhaglen hyfforddi aml asiantaeth a ddarperir ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol plant ac oedolion ar draws y rhanbarth. Mae'n monitro'r gyllideb flynyddol, mae'n yn gyfrifol am y strategaeth hyfforddi y cytunwyd arni, yn cynnal asesiadau o anghenion hyfforddi, ac yn penderfynu ar gynnwys a gwerthusiad y rhaglen hyfforddi. Mae'r grŵp hefyd yn chwarae rôl allweddol o ran rheoli'r grŵp cyflenwi hyfforddiant, gan ddyrannu adnoddau i ddylunio, datblygu a hwyluso holl fodiwlau hyfforddi cymeradwy'r Bwrdd.

Cliciwch yma i weld Cylch Gorchwyl y Grŵp Dysgu a Datblygu.