Y Grŵp Cynllunio Busnes

Mae'r grŵp hwn o arweinwyr diogelu o bob asiantaeth ar y bwrdd yn gweithredu fel grŵp gweithredol. Mae pob un o'r is-grwpiau eraill, ac eithrio'r grŵp adolygu achosion, yn darparu adroddiadau chwarterol i'r grŵp cynllunio busnes er mwyn adrodd ar gynnydd a monitro cydymffurfiad â'u cynlluniau gwaith. Mae'r grŵp hefyd yn rheoli unrhyw fentrau rhanbarthol fel y cyfarfodydd amlasianaeth ar Gam-fanteisio Rhywiol (MASE). Mae unrhyw adroddiadau i'r Byrddau Diogelu yn eithriad.