Grŵp Ymgysylltu a Chyfathrebu

Mae'r grŵp hwn yn gyfrifol am sicrhau bod pawb yn gwybod am y Byrddau Diogelu yng Ngwent, yr hyn y maent yn gyfrifol amdano a sut maent yn mynd ati i wneud y gwaith hwnnw. Mae'r grŵp yn annog plant, pobl ifanc ac aelodau o bob cymuned i gael llais yng ngwaith y Byrddau. Mae'r grŵp hefyd yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod ymwybyddiaeth o ddiogelu yn rhywbeth sy'n digwydd ar bob cyfle posibl. Mae'r grŵp yn sicrhau, wrth i ddarnau newydd o waith gael eu cwblhau gan y Byrddau, bod pob ymarferydd a gwirfoddolwr yn ymwybodol ohonynt ar draws y rhanbarth.

Cliciwch yma i weld Cylch Gorchwyl y Grŵp Ymgysylltu a Chyfathrebu.