Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Cafodd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ei chynnal rhwng 15 a 21 Mai. Y thema swyddogol oedd ‘pryder’ a, drwy gydol yr wythnos, roedden ni'n rhannu gwybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl, y cymorth a’r hyfforddiant sydd ar gael. 

Os ydych chi’n cael trafferth gyda gorbryder a materion yn ymwneud ag iechyd meddwl, Melo yw gwefan hunangymorth iechyd meddwl a lles Gwent sy’n llawn gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau. Hefyd ar y wefan, mae manylion llinellau cymorth lleol a chenedlaethol a ffynonellau cymorth: Llinellau Cymorth | Hunangymorth Lles Meddyliol Melo

Er nad yw sefydliadau a gwasanaethau iechyd meddwl yn gallu gwneud i'r argyfwng costau byw neu bwysau eraill ddiflannu, maen nhw'n gallu helpu pobl i ymdopi.

Os ydych chi'n cael trafferth, mae'n bwysig:

  • Cydnabod eich teimladau chi
  • Gofalu am eich iechyd corfforol chi
  • Cadw mewn cysylltiad
  • Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar
  • Gofyn am help, os oes angen
  • Gosod nodau realistig

Briff yr NSPCC

Manylion papur briffio newydd gan Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC): Iechyd meddwl plant: dysgu o adolygiadau achos (Mai 2023).

Detholiad o'r papur briffio

‘Published case reviews highlight the detrimental impact adverse experiences, such as abuse or neglect, can have on a child’s mental health. They also demonstrate how mental health problems can lead to safeguarding concerns. For example, in some case reviews a child's mental health problems led to self-harm or situations which put themselves or others at risk of harm. This briefing is based on learning from a sample of case reviews involving children with a wide range of different mental health problems’ (NSPCC 2023)

Gwasanaethau Partner Gwent

Canolbwyntio ar yr hyn rydych chi'n gallu ei reoli. Ynghyd â phartneriaid yng Ngwent, rydym ni'n helpu rhoi gwybod am wasanaethau amrywiol:

Hyfforddiant Iechyd Meddwl yng Ngwent

Mae gan Melo Cymru wybodaeth am hyfforddiant Cymorth Cyntaf Hunanladdiad AM DDIM ar gyfer oedolion a phlant a phobl ifanc ledled Gwent sy'n cael ei ddarparu gan hyfforddwyr lleol. Mae'r sesiynau hyn ar gael i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar draws sectorau lluosog gan gynnwys iechyd, tai, gofal cymdeithasol, addysg, cyfiawnder troseddol, gweithredwyr canolfannau galwadau, gweithwyr yn y sector preifat, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus a grwpiau neu aelodau cymunedol. Dysgwch ragor am yr hyfforddiant yma: www.melo.cymru/cy/cyrsiau/cymorth-cyntaf-hunanladdiad-lite-hyfforddiant-rhithwir/

Hefyd mae gan Melo Cymru wybodaeth am raglen hyfforddi Gwent 'Connect 5' sy'n canolbwyntio ar les meddyliol y gweithlu. Mae'r rhaglen yn helpu gweithwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau i helpu gwella eu lles meddyliol a chael sgyrsiau gydag eraill am eu lles meddyliol. Ar hyn o bryd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw'r unig sefydliad yng Nghymru sy'n darparu hyfforddiant Connect 5. Dyma ragor o wybodaeth: www.melo.cymru/cy/cyrsiau/rhaglen-hyfforddiant-gweithlu-connect-5-gwent/

Gwasanaethau Profedigaeth Hunanladdiad yng Ngwent

Diweddarodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu Gwasanaethau Cymorth Profedigaeth Hunanladdiad yng Ngwent yn ddiweddar. Y ddau ddarparwr lleol Gwasanaethau Cymorth Profedigaeth Hunanladdiad yw:

2wish

2wish, sy’n darparu gwasanaeth cenedlaethol i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan farwolaeth sydyn plentyn/person ifanc 25 oed ac iau, ac mae'n nhw'n darparu cyngor a chymorth hanfodol i deuluoedd lleol. Manylion gwasanaeth:

Ffôn: 01443 853 125
E-bost: info@2wish.org.uk
Gwefan: www.2wish.org.uk

Sefydliad Jacob Abraham

Mae Sefydliad Jacob Abraham yn cynnig cymorth i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan farwolaeth trwy hunanladdiad ymhlith oedolion 26 oed a hŷn. Manylion Sefydliad Jacob Abraham yw:

Ffôn: 029 22404736
Ffôn symudol: 07501 096081
E-bost: gwentpostventionsupport@jacobsfoundation.org.uk
Gwefan: www.jacobsfoundation.org.uk