Diogelu Cyd-destunol - Cam-drin plant yn rhywiol

Yn ystod mis Mawrth ac Ebrill 2022, cyflwynodd Bwrdd Diogelu Gwent fenter dysgu ‘Blas ar Ddysgu’ mewn tair rhan yn cyflwyno a hyrwyddo defnydd y tri pecyn Adnoddau Ymarferwyr Camdriniaeth Rywiol Plant (a’r fideos sy’n mynd gyda nhw), a ddatblygwyd yn ddiweddar gan y Ganolfan Arbenigrwydd ar Gamdriniaeth Rywiol Plant (Canolfan CSA).

Mae’r tri pecyn adnoddau a’r fideos i ymarferwyr yn delio gyda’r meysydd thema canlynol:

  1. Adnabod pryderon
  2. Ymateb i bryderon
  3. Cynorthwyo teuluoedd

O’u cyfuno, bydd yr adnoddau a’r fideos yma yn cynorthwyo ymarferwyr drwy roi’r wybodaeth iddyn nhw i adnabod pryderon ynglŷn â chamdriniaeth rhywiol plant, gyda’r hyder i ymateb a siarad gyda phlant, a hefyd yr wybodaeth a’r hyder i’w helpu nhw i ymateb a gweithio gyda’r teulu cyfan.

Mae’r adnoddau yn arwain ymarferwyr ar ‘daith cam wrth gam i gael gwell dealltwriaeth a rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol ar y ffordd orau o ymateb’ (Canolfan CSA, 2022).

Thema 1 – ‘Adnabod Pryderon’

Wrth adnabod pryderon ynglŷn â Chamdriniaeth Rywiol Plant, mae’r Ganolfan CSA yn awgrymu bod tair agwedd bwysig i’w hystyried:

  • Graddfa a natur y gamdriniaeth rywiol
  • Deall pam y gall fod yn anodd i blant siarad am gamdriniaeth rywiol
  • Adeiladu darlun o bryderon er mwyn llunio’r ymateb

Nod yr adnoddau canlynol yw cynorthwyo ymarferwyr i adnabod a chofnodi pryderon, ac mae’r fideos yn ystyried y gwahanol agweddau y dylid eu hystyried.

Adnoddau 1 (o 3) i Ymarferwyr

Arwyddion a dangosyddionTempled ar gyfer adnabod a chofnodi pryderon ynghylch cam-drin plant.

Signs & Indicators Template - CSA Centre

Fideos

Adnabod pryderon ynglŷn â cham-drin rhywiol: Graddfa a natur cam-drin plant yn rhywiol (2/12)

Adnabod pryderon ynglŷn â cham-drin rhywiol: Deall pan mae hi'n anodd i blant siarad am gamdriniaeth rywiol (3/12)

Adnabod pryderon ynglŷn â cham-drin rhywiol: Adeiliadu darlun o'ch pryderon er mwyn llunio'r ymateb (4/12)

 Thema 2 - ‘Ymateb i Bryderon’

Mae adnoddau Thema 2 yn ystyried sut rydym yn cyfathrebu ac ymgysylltu gyda phlant sydd efallai wedi eu cam-drin yn rhywiol.

Mae’r Ganolfan CSA yn pwysleisio mai cyfrinachedd ac aros yn dawel yw ‘cyfeillion’ gorau camdriniaeth rywiol plant ... mae angen y rhain er mwyn iddo oroesi. ‘Os ydym yn dechrau enwi hyn a siarad amdano, rydym mewn gwell sefyllfa i’w drechu’ (Canolfan CSA 2022, Fideo 5/12).

Fel ymarferwyr mae angen i ni adnabod cyfleoedd i siarad gyda phlant, ac oedolion, ac y gamdriniaeth maent wedi ei dioddef ... i gyfleu ‘nad dy fai di yw hyn’ a ‘siarad am y teimladau o ddryswch, hunan-feio a theimladau o gyfrifoldeb’ (Canolfan CSA 2022, Fideo 5/12).

Mae adnoddau Thema 2 yn canolbwyntio ar adnabod a cheisio dileu’r rhwystrau i sgwrsio am gamdriniaeth rywiol.

Adnoddau 2 (o 3) i Ymarferwyr

Cyfathrebu gyda Phlant – Canllaw i bobl sy’n gweithio gyda phlant sydd efallai wedi eu cam-drin yn rhywiol.

Communicating with Children Guide - CSA Centre

Fideos

Ymateb i bryderon ynglŷn â cham-drin plant yn rhywiol: Gweithio gyda phlant a all fod wedi profi camdriniaeth rywiol (5/12)

Ymateb i bryderon ynglŷn â cham-drin plant yn rhywiol: Adnabod y rhwystrau i sgyrsiau ynglŷn â cham-drin rhywiol (6/12)

Ymateb i bryderon ynglŷn â cham-drin plant yn rhywiol: Bod yn hyderus wrth ymateb i bryderon cam-drin plant yn rhywiol (7/12)

Ymateb i bryderon ynglŷn â cham-drin plant yn rhywiol: Defnyddio ein 'Cyfathrebu â phlant' adnodd i helpu pan fydd gennych bryderon  (8/12)

 Thema 3: ‘Cynorthwyo Teuluoedd’

Mae adnoddau Thema 3 yn ymwneud â chynorthwyo ein gwaith gyda theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gam gamdriniaeth rywiol plant.

Mae’r Ganolfan CSA yn amlygu bod teuluoedd yn arwyddocaol o ran dylanwadu ar sut y bydd plentyn yn deall ac ymateb i’r hyn sydd wedi digwydd iddynt nhw (Canolfan CSA 2022).

‘Rydym yn gwybod o’r gwaith ymchwil mai un o’r ffactorau mwyaf arwyddocaol o ran effeithiau hirdymor camdriniaeth rywiol yw’r gefnogaeth y mae’r plentyn wedi ei chael gan y prif ofalwyr a’r teulu yn ehangach’ (Fideo 9/12, Canolfan CSA 2022)

Mae adnoddau Thema 3 yn adeiladu ar yr adnoddau blaenorol (Themâu 1 a 2), gan helpu ymarferwyr i adeiladu ar eu dealltwriaeth, ynghyd â rhoi arweiniad ar gael sgyrsiau ar y pwnc yma.

Adnoddau 3 (o 3) i Ymarferwyr

Cynorthwyo rhieni a gofalwyr – Canllaw i’r sawl sy’n gweithio gyda theuluoedd a effeithir gan gamdriniaeth rywiol plant (gweler dogfen ynghlwm)

 Supporting Parents and Carers Guide - CSA Centre

Fideos

Cefnogi teuluoedd pan mae pryderon ynglŷn â cham-drin plant yn rhywiol: Deall y cyd-destun ac effaith cam-drin plant yn rhywiol (9/12)

Cefnogi teuluoedd pan mae pryderon ynglŷn â cham-drin plant yn rhywiol: Dull teulu cyfan - cefnogi rhieni a gofalwyr (10/12) 

Cefnogi teuluoedd pan mae pryderon ynglŷn â cham-drin plant yn rhywiol: Dull teulu cyfan - cefnogi rhieni a gofalwyr er mwyn cefnogi'r plentyn (11/12)

Cefnogi teuluoedd pan mae pryderon ynglŷn â cham-drin plant yn rhywiol: Pwysigrwydd eich rôl  (12/12)