Diogelu Cyd-destunol - Sesiynau dysgu byr

Mae Diogelu Gwent wedi coladu rhywfaint o wybodaeth ragarweiniol am ddiogelu cyd-destunol, gan gynnwys fideos, adnoddau eraill a ffynonellau gwybodaeth. Yn flaenorol, roedd y manylion hyn yn rhan o fenter ‘dysgu byr’ wedi'i chynnal gan Diogelu Gwent ym mis Gorffennaf 2021. 

Mae diogelu cyd-destunol yn ddull sy'n dod i'r amlwg (nid model sefydledig) sy'n ein helpu ni i ddechrau deall ac ymateb i brofiadau pobl ifanc o niwed sylweddol y tu hwnt i'w teuluoedd.

"It recognises that the different relationships that young people form in their neighbourhoods, schools and online can feature violence and abuse. Parents and carers have little influence over these contexts and young people’s experiences of extra-familial abuse can undermine parent-child relationships" (Contextual Safeguarding Network 2021)

Mae Partneriaeth Diogelu Gwent yn trafod â Llywodraeth Cymru a'r pum partneriaeth Bwrdd Diogelu Rhanbarthol eraill yng Nghymru ac yn archwilio rhinweddau posibl a goblygiadau eraill y dull hwn.

Mae ymestyn cylch gwaith modelau amddiffyn plant/teuluoedd traddodiadol ac ymateb i brofiadau pobl ifanc o niwed y tu allan i'r cartref yn arwain at oblygiadau pellgyrhaeddol i arferion a phrosesau amddiffyn plant, ac mae mabwysiadu a gweithredu dull diogelu cyd-destunol yn amrywio'n sylweddol ledled y Deyrnas Unedig.

Beth yw diogelu cyd-destunol?

Ffynhonnell: Contextual Safeguarding Website

Mae Dr Firmin, sylfaenydd Diogelu Cyd-destunol, wedi taflu goleuni ar ‘amgylcheddau niweidiol’ sy'n bodoli y tu allan i'r cartref ac wedi galw am ailysgrifennu rheolau amddiffyn plant cyfredol:

"I’m going to talk to you about the stairwells, the bus terminals, the inline spaces, the housing estates and parks, and even the school toilets where these incidents occurred"

Yn y sgwrs TED ganlynol (isod), mae Dr Firmin yn ystyried ymyriadau ac ymatebion amgen a allai helpu lleihau'r risg a/neu atal y niwed a'r cam-drin y mae rhai plant yn destun iddynt. 

Ffynhonnell: Contextual Safeguarding Website

Mae'r fideo nesaf yn tynnu sylw at gysylltiadau posibl â 'Diogelwch y Gymuned', ‘Mwy Diogel trwy Ddylunio’ ac ‘Atal Troseddu Sefyllfaol’, ac mae'n nodi targedau newydd ar gyfer ymyriadau amddiffyn plant, partneriaethau newydd, newidiadau i'r fframwaith deddfwriaethol ac yn ystyried canlyniadau cyd-destunol yn hytrach na chanlyniadau unigol

Ffynhonnell: Contextual Safeguarding Website

Mae'r tri fideo nesaf yn ystyried sut y gallai diogelu cyd-destunol weithio'n ymarferol. Mae'n cynnwys ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cychwyn ar weithredu dull diogelu cyd-destunol. 

Effeithiau diogelu cyd-destunol ar ofal cymdeithasol plant

Mapio grwpiau cymheiriaid

Secstio mewn ysgolion, ymatebion i gamdriniaeth drwy rannu delweddau

Ffynhonnell: Rhwydwaith Diogelu Cyd-destunol