Briffiau 7 Munud

Mae sesiynau briffio 7 munud yn seiliedig ar dechneg a fenthycwyd gan yr FBI. Mae dysgu am saith munud yn hawdd yn y rhan fwyaf o wasanaethau, ac mae’r dysgu yn fwy cofiadwy am ei fod yn syml ac nid yw'n cael ei gymylu gan faterion a phwysau eraill. Dylai eu cyfnod briffio hefyd olygu eu bod yn dal sylw pobl, yn ogystal â rhoi rhywbeth i reolwyr ei rannu gyda'u staff. Yn amlwg, ni fydd y sesiynau briffio'n cynnig yr atebion i gyd, ond y gobaith yw y byddant yn gweithredu fel catalydd i helpu timau a'u rheolwyr fyfyrio ar eu harferion a'u systemau. Y disgwyl yw y bydd arweinwyr tîm yn cyflwyno sesiynau briffio i'w staff yn rheolaidd.

Isod ceir rhestr o sesiynau briffio 7 munud a gynhyrchwyd gan y grŵp Adolygiad Achosion i ddysgu o'r Adolygiadau Ymarfer Achos

Oedolion

Plant