Beth yw Adolygiad Diogelu Unedig Sengl?

Mae canllawiau statudol yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl ar gael yma:

Adolygiad Diogelu Unedig Sengl: canllawiau statudol (llyw.cymru)

Mae’r canllawiau statudol hyn yn disodli Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrolau 2 (Adolygiadau Ymarfer Plant) a 3 (Adolygiadau Ymarfer Oedolion). Mae proses yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yng Nghymru wedi cyfuno 5 proses adolygu i un model. Dim ond un adolygiad diogelu fydd yn cael ei gynnal pan fydd un neu ragor o’r meini prawf ar gyfer yr adolygiadau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Adolygiad Ymarfer Oedolion;
  • Adolygiad Ymarfer Plant;
  • Adolygiad Lladdiadau Domestig;
  • Adolygiad Lladdiadau Iechyd Meddwl; ac
  • Adolygiad o Laddiadau gydag Arfau Ymosodol.

Bydd angen i deuluoedd a dioddefwyr fod yn rhan o un broses adolygu yn unig a fydd yn helpu i leihau’r effaith ar y rhai sydd mewn profedigaeth. Bydd pob Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn cael ei gadw yn Storfa Ddiogelu Cymru. Bydd hyn yn helpu i hwyluso hyfforddiant Cymru gyfan a dysgu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Gall unrhyw aelod o’r Bwrdd Diogelu, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (lle mae Lladdiad Domestig wedi digwydd neu fel arall yn berthnasol), asiantaeth neu ymarferwr atgyfeirio achos y maen nhw’n credu ei fod yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl i’r Bwrdd Diogelu.

Gall yr asiantaeth berthnasol ofyn am gyngor gan aelod o’r Bwrdd Diogelu cyn atgyfeirio. Fodd bynnag, dylai atgyfeiriad gael ei gyfeirio at Reolwr Uned Busnes y Bwrdd Diogelu (neu swyddog cyfatebol) a fydd yn sicrhau bod Cadeirydd y Bwrdd Diogelu yn cael gwybod. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld y ffurflen atgyfeirio SUSR

Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) hysbysiad preifatrwydd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â DiogeluGwent@caerffili.gov.uk